Mae mwy o arddangosfeydd yn cael eu trefnu ar gyfer 2026 – dewch nol at y dudalen hon weld diweddariadau
Cyfredol
-
Colin Davies
Power and Serenity 2 - 30 May 2026 Yn ei luniau, mae Colin Davies yn dal dicter a heddwch – ymchwydd moroedd a thangnefedd yr awyr – trwy impasto cyllell baled mentrus a gwaith brwsh mynegiannol. Mae ei broses reddfol yn dechrau gydag isbaentio llac, gan adeiladu haenau garw i gyfleu symudiad a dyfnder, gan feddalu’r ymylon i... Darllen mwy -
Steve Brockett
To Carry and Be Carried 2 - 30 May 2026 Mae arddangosfa Steve Brockett yn ymestyn tu hwnt i’r tirlun ffisegol i dir cymhleth ein cysylltiadau yn y byd byw – mae’n siarad am y cwlwm rhwng dyn ac anifail a’r gofal, y baich, yr agosatrwydd a’r straen sy’n diffinio’r cyswllt hwnnw. Fel y mae ein cysylltiadau emosiynol yn siapio... Darllen mwy
I ddod
-
Michael Monaghan
Rhythm Forged 30 May - 4 July 2026 Mae Rhythm Forged yn dal y naws hynod gorfforol sydd i broses Michael o baentio, lle mae symudiad, greddf ac arwynebedd yn gwrthdaro. Mae pob darn yn teimlo fel petai wedi ei naddu o symudiad ei hunan – brwsh a chyllell yn gweithio mewn deialog, yn siapio haenau trwchus o... Darllen mwy -
Eloise Govier
West by Southwest 30 May - 4 July 2026 Mae West by Southwest yn cyflwyno casgliad newydd o waith gan yr arlunydd Cymreig Eloise Govier, sy’n ymchwilio i botensial mynegiannol lliw, gwead a symudiad yn ei hymarfer. Yn adnabyddus am ei phalet lliw llachar a’i chyfansoddiadau cyffyrddadwy, mae Eloise yn tynnu ar egwyddorion Mynegiadaeth yn ei gwaith tra’n defnyddio... Darllen mwy -
Ceri H Pritchard
Cyflyrau Newidiol 27 June - 25 July 2026 Mae arddangosfa newydd Ceri yn dod â chorff o waith hynod ddiddorol at ei gilydd sy'n llywio drwy amodau cyfnewidiol, ansefydlog yn aml, bywyd cyfoes, gan wahodd gwylwyr i fyd rhyfedd, newidiol lle mae canfyddiad, cof, ac awyrgylch yn cael eu hailffurfio'n barhaus. Darllen mwy -
Catrin Webster
(be) longing 4 July - 8 August 2026 Yn y gyfres newydd hon o baentiadau gan Catrin Webster mae’n ail-ymweld â llefydd a welodd ac a baentiodd ar hyd gyrfa o dros 40 mlynedd, Mae gyda nhw ystyr arbennig i’r artist sy’n teimlo cyswllt dwfn gyda’r tirweddau arbennig hyn. Mae llawer yn lefydd wedi eu curadu fel gerddi... Darllen mwy -
AUR
Arddangosfa o Fedelwyr Aur blaenorol yr Eisteddfod 31 July - 13 September 2026 Rydym yn dathlu dychweliad yr Eisteddfod i Aberteifi ar ôl 850 o flynyddoedd gydag arddangosfa arbennig iawn o Fedelwyr Aur blaenorol a fydd yn rhedeg drwy gydol mis Awst. Darllen mwy -
Sophie Myfanwy Wellan
Cymundeb 29 August - 26 September 2026 Wrth galon ymarfer Sophie mae’r chwilio am wirionedd dyfnach – dyhead i gadw teimlad o fod yn gysylltiedig, a hynny wedi ei fynegi trwy iaith deunyddiau a hanfod ysbrydol sylwedd ei hun. Mae’r arddangosfa hon yn talu teyrnged i fywyd a dirgelwch hardd y wenynen, creadur sy’n ganolog i ymchwiliadau... Darllen mwy -
Katie Allen & Verity Pulford
3 October - 7 November 2026 Mae ein harddangosfa arbennig ym mis Hydref yn cyfuno gwaith yr artist gwydr Verity Pulford a’r arlunydd Kate Allen mewn deialog farddonol am gywreinrwydd ein byd a grym adferol byd natur. Er eu bod yn gweithio mewn cyfryngau gwahanol, mae’r ddwy artist yn creu bydoedd dychmygol wedi eu gwreiddio mewn... Darllen mwy -
Sarah Lees
Edge Lands 31 October - 28 November 2026 Mae’r arddangosfa hon yn casglu ynghyd ymchwiliad parhaus Sarah i’r siapiau a’r olion a adawyd gan ganrifoedd o ymwneud dyn â’r tir. Mae diddordeb rhyfeddol Sarah mewn ymylon tirwedd yn adlewyrchu deialog rhwng ymyrraeth dyn a’r tir gwyllt naturiol, gan adleisio themâu ehangach mewn celf gyfoes a Chymreig ynglyn â... Darllen mwy -
Patricia McParlin
31 October - 28 November 2026 Mae’r arddangosfa yn cyflwyno corff o waith lle mae paentio yn ymagor fel cyfres o symudiadau mewn amser – yn rhannol ddawns, rhannol gerddoriaeth, rhannol theatr. Wrth galon yr arddangosfa mae ymchwiliad i anian paent: yn haenau, wedi ei sgwrio nôl, ei arllwys a’i frwsio mewn ystumiau ysgubol sy’n awgrymu... Darllen mwy -
The Welsh Group
Cydweithfa artistiaid sy’n rhoi llais i’r celfyddydau gweledol yng Nghymru. 28 November 2026 - 2 January 2027 Y Grŵp Cymreig yw un o’r cydweithfeydd celfyddydol uchaf eu parch yng Nghymru. Cafodd ei sefydlu yn 1948 o dan yr enw South Wales Group, ac yn wreiddiol fe dynnodd ynghyd artistiaid amatur a phroffesiynol o chwe chymdeithas gelf flaenllaw yr ardal. Erbyn 1975, roedd y grŵp wedi datblygu yn... Darllen mwy
Gorffennol
-
Gillian McDonald
Presenoldeb mewn Amser 31 March - 25 April 2026 Mae paentiadau Gillian wedi eu gwreiddio yn yr un tir hynafol sy’n angori meini hirion sir Benfro – goruchwylwyr tawel sydd wedi gwylio dros y ddaear ers miloedd o flynyddoedd. Llestri sy’n dal cof a chwedl yw’r monolithau yma, a ffurfiwyd gan amser a defosiwn dynol. Yng ngwaith Gillian, mae... Darllen mwy -
Nicola Beattie
Olion Tawel 31 March - 25 April 2026 Mae Nicola Beattie yn cael ei hysbrydoli gan bresenoldeb oesol tirweddau sir Benfro – y meini hirion, adfeilion cestyll a chreiriau wedi eu gwisgo gan dywydd, lle mae amser fel petai’n sefyll yn stond. Trwy ei hymarfer, mae Nicola’n archwilio’r ddeialog rhwng heddwch a gwrthdaro, gwytnwch a breuder. Mae ei... Darllen mwy -
Annie Morgan Suganami
Olion Bywyd wedi'i gyd-gyflwyno gyda TEN Caerdydd 28 February - 28 March 2026 In honour of International Women's Day, Canfas is proud to present Gallery TEN’s exhibition of paintings by Machynlleth based Annie Morgan Suganami, curated by Cat Gardiner. At the heart of Suganami’s work are the matriarchs — the elderly women who shaped family and community life, yet are so often overlooked... Darllen mwy -
Lola Rose Chapman
Essence of Place 28 February - 28 March 2026 Mae Lola yn gwahodd gwylwyr i guriad byw tirwedd Cymru, gan drosi teimlad yn liw, symudiad, a ffurf.Mae Lola yn gwahodd gwylwyr i guriad byw tirwedd Cymru, gan drosi teimlad yn liw, symudiad, a ffurf.
Credyd llun: Matthew Peter Jones: Dylunydd Gwe a Gweledol Darllen mwy -
Dottie-may Aston
Excuse Me? 28 February - 28 March 2026 Mae'r arddangosfa hon yn ymhyfrydu mewn hiwmor a direidi, wrth i Dottie-may droi'r cyffredin yn annisgwyl mewn ffordd chwareus, gan ddatgelu y gall hyd yn oed …Mae'r arddangosfa hon yn ymhyfrydu mewn hiwmor a direidi, wrth i Dottie-may droi'r cyffredin yn annisgwyl mewn ffordd chwareus, gan ddatgelu y gall hyd yn oed yr eiliadau ysgafnaf guddio winc slei a phinsiad o wirionedd. Darllen mwy -
Art Drop '26
Horses For Courses 10 January - 28 February 2026 Y gaeaf hwn, mae Canfas yn cyflwyno ‘Horses for Courses’ sef arddangosfa gymysg llawn bywyd sy’n tynnu ynghyd artistiaid sydd wedi bod wrthi ers tro ochr yn ochr â dewis o leisiau newydd. Natalie Chapman yw’r curadur, ac mae’r sioe yn dathlu gwaith sy’n archwilio pynciau sy’n absennol yn aml... Darllen mwy
