Colin Davies : Power and Serenity
Mae’r arddangosfa hon, sy’n ddathliad o rym amrwd a mawredd tawel y dirwedd Gymreig, yn cyflwyno paentiadau deinamig Colin Davies, sy’n dirgrynu gyda natur anrhagweladwy.
Yn ei luniau, mae Colin Davies yn dal dicter a heddwch – ymchwydd moroedd a thangnefedd yr awyr – trwy impasto cyllell baled mentrus a gwaith brwsh mynegiannol. Mae ei broses reddfol yn dechrau gydag isbaentio llac, gan adeiladu haenau garw i gyfleu symudiad a dyfnder, gan feddalu’r ymylon i greu gwrthgyferbyniad tawel – cydbwysedd nodweddiadol o’i waith sy’n ddrych o natur ddeuol ei famwlad. Gan weithio’n bennaf mewn olew ac acrylig, mae Davies yn defnyddio ystumiau mawr ac impasto i gyfieithu sain dwr yn rhuthro, gwyntoedd yn rhuo a golau’n symud, gan flaenoriaethu emosiwn yr awyrgylch yn hytrach na darlunio manwl gywir. Mae lliwiau llachar a arwynebeddau cyffyrddadwy yn denu gwylwyr i ddrama’r elfennau yng Nghymru. Mae ei ddarluniau mewn casgliadau yn y DU ac yn rhyngwladol, tra ei fod yntau yn rhannu technegau trwy ddysgu ledled y wlad. Daw pob darn yn borth i oriau a dreuliwyd yn gwylio tonnau a mynyddoedd – teyrnged o’r galon i’r golygfeydd sy’n ei ysbrydoli yn ddyddiol – gan gyfuno graddfa, llonyddwch a dwyster i greu man i gyfarfod ysbryd byw Cymru.
-
Colin Davies , Storm at the Tor -
Colin Davies , All That Jazz- Bannau Brycheiniog -
Colin Davies , Before the Rain -
Colin Davies , Dancing Sunbeam- Bannau Brycheiniog -
Colin Davies , Basking in Sunlight- Cardigan Island -
Colin Davies , Drifting Into Dusk- Mwnt -
Colin Davies , Echoes of Silence- Llynau Mymbyr, Yryri -
Colin Davies , Ephemeral Whisper -
Colin Davies , Ethereal Sands- Poppit -
Colin Davies , Ethereal Shore -
Colin Davies , Farewell to Summer- Bannau Brycheiniog -
Colin Davies , Fast and Furious -
Colin Davies , Frothy White Crests -
Colin Davies , Golden Glow -
Colin Davies , Frozen Enchantment- Bannau Brycheiniog -
Colin Davies , Golden Hills- Bannau Brycheiniog -
Colin Davies , Golden Peaks- Bannau Brycheiniog -
Colin Davies , Golden Hour- Castell Carreg Cennen -
Colin Davies , Majestic Momentum -
Colin Davies , Majestic- Bannau Brycheiniog -
Colin Davies , Melting Dusk- Llangorse Lake -
Colin Davies , Merging Blues- Tresaith -
Colin Davies , Ocean Commotion -
Colin Davies , Power and Serenity -
Colin Davies , Radiant Hills- Hay Bluff -
Colin Davies , Shadows and Sunlight- Mwnt -
Colin Davies , Silver Tide -
Colin Davies, Summer Meadow -
Colin Davies , Thrashing Waves -
Colin Davies , Time Stands Still -
Colin Davies , Whispers on the Wind- Llangrannog -
Colin Davies , Ocean Rush -
Colin Davies , On the Rocks
WHERE THE LAND CARRIES US
GWEITHIAU NEWYDD GAN COLIN DAVIES A STEVE BROCKETT
YN ORIEL CANFAS, ABERTEIFI
Arddangosfa: Where the Land Carries Us
Artistiaid: arlunwyr Colin Davies a Steve Brockett
Lleoliad: Oriel Canfas, Aberteifi
Dyddiadau: Mai 2-30 2026
Derbyniad a diod & Cwrdd a’r Artistiaid: Sadwrn Mai 2, 1-3yp
Wrth i oleuni’r haf ymestyn dros fryniau Gorllewin Cymru, mae Oriel Canfas yn falch i gyflwyno Where the Land Carries Us, dwy arddangosfa gysylltiedig sy’n cyfuno gwaith yr arlunwyr Colin Davies a Steve Brockett. Er bod eu pynciau’n go wahanol – Davies yn cyfleu ynni elfennol garw Cymru ei hun, Brockett yn nodi y cysylltiadau tawel a chymhleth rhwng creaduriaid byw a’u cynefinoedd – mae eu gwaith yn rhannu’r un argyhoeddiad: nid rhywbeth cefndirol mo tirwedd. Mae’n byw ynom ni, yn ein ffurfio ac yn gofyn am rywbeth nôl wrthon ni. Mae Colin Davies yn paentio Cymru fel y mae’n swnio ac yn teimlo cyn bod modd ei enwi, a thra ei fod e’n gweithio am allan mae Steve Brockett yn symud i mewn tu hwnt i’r dirwedd ffisegol i diriogaeth gymhleth ein cysylltiadau yn y byd byw.
“Ro’n ni am dynnu ynghyd waith dau artist sydd ill dau, er yn dra gwahanol ar yr wyneb ac o ran pwnc, yn sylwi’n ddwfn ar yr hyn mae tirwedd yn ei wneud i ni – nid o ran ei golwg yn unig, ond sut mae’n symud drwyddon ni a’r hyn mae’n disgwyl i ni gario,” meddai James Horan, Cyfarwyddwr, Oriel Canfas.
Ochr yn ochr yn Oriel Canfas, mae’r ddau gorff o waith yn taflu goleuni ar ei gilydd yn rymus iawn. Mae Davies yn rhoi ffurf i dywydd allanol Cymru – ei drama, ei mawredd ei newid diderfyn – tra bod Brockett yn talu sylw i’r tywydd mewnol y mae hynny’n ei greu: y ffordd mae tir yn setlo yn y corff, yn y cof, yn ein cysylltiadau gyda’r creaduriaid sy’n rhannu’r tir gyda ni. Mae un yn paentio beth mae’r llygad yn ei weld; mae’r llall yn amlinellu yr hyn sy’n cael ei gario yn nwfn y galon.
Mae Where the Land Carries Us yn cynnig cyfarfyddiad aml-haenog gyda Chymru fel profiad bywydyn ogystal â grym byw – lle sy’n goroesi, nid yn unig o fewn ei cherrig a’i harfordir, ond yn y celf, y cysylltiadau a’r bywydau mewnol y mae’n eu hysbrydoli o hyd.
Mae Oriel Canfas yn Manchester House, Rhiw’r Castell, Aberteifi SA43 1HY yn croesawu ymwelwyr o bell ac agos. Bydd yr arddangosfa’n rhedeg o 2-30 Mai 2026, gyda derbyniad a diod ar benwythnos Gŵyl y Banc Sadwrn Mai 2, 1-3 yp, gan gynnig cyfle cynnes i gwrdd â’r artistiaid a dathlu’r bennod newydd hon yn rhaglen yr oriel.

