Canfas company logo
Canfas
Skip to main content
  • Menu
  • Artistiaid
  • Arddangosfeydd
  • Cysylltwch
  • Digwyddiadau
  • Archif
  • EN
  • CY
Cart
0 items £
Checkout

Eitem wedi'i hychwanegu at y drol

View cart & checkout
Parhau i siopa
Menu
  • Menu
  • Menu
  • EN
  • CY
Steve Brockett
To Carry and Be Carried, 2 - 30 May 2026

Steve Brockett: To Carry and Be Carried

Cyfredol exhibition
  • Trosolwg
  • Gweithiau
  • Installation Views
  • Datganiad
  • Artistiaid cysylltiedig
Trosolwg
Masked Goat
Masked Goat

Meddyliau wedi eu distyllu yw canfasau lled-haniaethol Steve, yn drwch o ffigurau symbolaidd ac anifeiliaid, cyfeiriadau hanesyddol ac ail-ddychmygu mytholegol.

Mae arddangosfa Steve Brockett yn ymestyn tu hwnt i’r tirlun ffisegol i dir cymhleth ein cysylltiadau yn y byd byw – mae’n siarad am y cwlwm rhwng dyn ac anifail a’r gofal, y baich, yr agosatrwydd a’r straen sy’n diffinio’r cyswllt hwnnw. Fel y mae ein cysylltiadau emosiynol yn siapio ein ffordd o fyw yn y byd, mae ei baentiadau yn datgelu sut y gall tirweddau fyw ynddo ninnau hefyd. Yn Carry and Be Carried, mae cof a greddf yn plethu fel bywydau rhwng-ddibynnol, gan arwain at ddaearyddiaeth fewnol o empathi a thensiwn. Trwy haenau symudol o liw a haniaeth, mae Steve yn amlinellu nid yn unig ffurfiau anialwch Almería a chefn gwlad Cymru, ond hefyd tirweddau seicolegol perthynas – y llefydd hynny lle mae perthyn yn cario pwysau, a lle mae gofal yn lloches a llyffethair. Mae ei waith yn gwahodd gwylwyr i synhwyro’r ddwyochredd yma: y ffordd ry’n ni’n cario’r llefydd a’r creaduriaid ry’n ni’n eu caru fel y mae nhw, yn eu tro, yn ein cario ninnau.

 

Rhannu
  • Facebook
  • X
  • Pinterest
  • Tumblr
  • Email
Gweithiau
  • Steve Brockett, Shared Silence
    Steve Brockett, Shared Silence
  • Steve Brockett, What Carries Us
    Steve Brockett, What Carries Us
  • Steve Brockett, Counter Balance
    Steve Brockett, Counter Balance
  • Steve Brockett, Realm
    Steve Brockett, Realm
  • Steve Brockett, A Kind of Holding
    Steve Brockett, A Kind of Holding
  • Steve Brockett, El Ritmo
    Steve Brockett, El Ritmo
  • Steve Brockett, Counter Weight
    Steve Brockett, Counter Weight
  • Steve Brockett, A Kind of Mercy
    Steve Brockett, A Kind of Mercy
  • Steve Brockett, Donkey and the Bride
    Steve Brockett, Donkey and the Bride
  • Steve Brockett, Masked Goat
    Steve Brockett, Masked Goat
  • Steve Brockett, Passenger
    Steve Brockett, Passenger
  • Steve Brockett, Pink Goat
    Steve Brockett, Pink Goat
  • Steve Brockett, Tethered
    Steve Brockett, Tethered
  • Steve Brockett, The Clearing
    Steve Brockett, The Clearing
  • Steve Brockett, The Ride
    Steve Brockett, The Ride
  • Steve Brockett, The Witness
    Steve Brockett, The Witness
  • Steve Brockett, Under a Weight of Wings
    Steve Brockett, Under a Weight of Wings
  • Steve Brockett, A Kind of Ascent
    Steve Brockett, A Kind of Ascent
  • Steve Brockett, A Kind of Fall
    Steve Brockett, A Kind of Fall
Installation Views
  • Img 3238
  • Img 3234
  • Img 3235
  • Img 3244
  • Img 3237
  • Img 3239
  • Img 3335
  • Img 3337
  • Img 3344
Datganiad

WHERE THE LAND CARRIES US

GWEITHIAU NEWYDD GAN COLIN DAVIES A STEVE BROCKETT

YN ORIEL CANFAS, ABERTEIFI

 

Arddangosfa: Where the Land Carries Us

Artistiaid: arlunwyr Colin Davies a Steve Brockett

Lleoliad: Oriel Canfas, Aberteifi

Dyddiadau: Mai 2-30 2026

Derbyniad a diod & Cwrdd a’r Artistiaid: Sadwrn Mai 2, 1-3yp

 

Wrth i oleuni’r haf ymestyn dros fryniau Gorllewin Cymru, mae Oriel Canfas yn falch i gyflwyno Where the Land Carries Us, dwy arddangosfa gysylltiedig sy’n cyfuno gwaith yr arlunwyr Colin Davies a Steve Brockett. Er bod eu pynciau’n go wahanol – Davies yn cyfleu ynni elfennol garw Cymru ei hun, Brockett yn nodi y cysylltiadau tawel a chymhleth rhwng creaduriaid byw a’u cynefinoedd – mae eu gwaith yn rhannu’r un argyhoeddiad: nid rhywbeth cefndirol mo tirwedd. Mae’n byw ynom ni, yn ein ffurfio ac yn gofyn am rywbeth nôl wrthon ni. Mae Colin Davies yn paentio Cymru fel y mae’n swnio ac yn teimlo cyn bod modd ei enwi, a thra ei fod e’n gweithio am allan mae Steve Brockett yn symud i mewn tu hwnt i’r dirwedd ffisegol i diriogaeth gymhleth ein cysylltiadau yn y byd byw.

“Ro’n ni am dynnu ynghyd waith dau artist sydd ill dau, er yn dra gwahanol ar yr wyneb ac o ran pwnc, yn sylwi’n ddwfn ar yr hyn mae tirwedd yn ei wneud i ni – nid o ran ei golwg yn unig, ond sut mae’n symud drwyddon ni a’r hyn mae’n disgwyl i ni gario,” meddai James Horan, Cyfarwyddwr, Oriel Canfas.

Ochr yn ochr yn Oriel Canfas, mae’r ddau gorff o waith yn taflu goleuni ar ei gilydd yn rymus iawn. Mae Davies yn rhoi ffurf i dywydd allanol Cymru – ei drama, ei mawredd ei newid diderfyn – tra bod Brockett yn talu sylw i’r tywydd mewnol y mae hynny’n ei greu: y ffordd mae tir yn setlo yn y corff, yn y cof, yn ein cysylltiadau gyda’r creaduriaid sy’n rhannu’r tir gyda ni. Mae un yn paentio beth mae’r llygad yn ei weld; mae’r llall yn amlinellu yr hyn sy’n cael ei gario yn nwfn y galon.

Mae Where the Land Carries Us yn cynnig cyfarfyddiad aml-haenog gyda Chymru fel profiad bywydyn ogystal â grym byw – lle sy’n goroesi, nid yn unig o fewn ei cherrig a’i harfordir, ond yn y celf, y cysylltiadau a’r bywydau mewnol y mae’n eu hysbrydoli o hyd.

Mae Oriel Canfas yn Manchester House, Rhiw’r Castell, Aberteifi SA43 1HY yn croesawu ymwelwyr o bell ac agos. Bydd yr arddangosfa’n rhedeg o 2-30 Mai 2026, gyda derbyniad a diod ar benwythnos Gŵyl y Banc Sadwrn Mai 2, 1-3 yp, gan gynnig cyfle cynnes i gwrdd â’r artistiaid a dathlu’r bennod newydd hon yn rhaglen yr oriel.

Artist cysylltiedig

  • Steve Brockett

    Steve Brockett

Yn ôl i'r arddangosfeydd
Polisi Hygyrchedd
Rheoli cwcis
Hawlfraint 2026 Canfas
Site by Artlogic

Oriel Canfas Gallery

Manchester House, Aberteifi SA43 1HY  info@canfas.co.uk   01239 614344

Facebook, opens in a new tab.
Instagram, opens in a new tab.
Ymunwch â'r rhestr bostio
Anfon e-bost
View on Google Maps

This website uses cookies
This site uses cookies to help make it more useful to you. Please contact us to find out more about our Cookie Policy.

Rheoli cwcis
Reject non essential
Accept

Dewisiadau cwcis

Check the boxes for the cookie categories you allow our site to use

Cookie options
Required for the website to function and cannot be disabled.
Improve your experience on the website by storing choices you make about how it should function.
Caniatáu i ni gasglu data defnydd anhysbys er mwyn gwella'r profiad ar ein gwefan.
Caniatáu i ni adnabod ein hymwelwyr er mwyn cynnig marchnata personol wedi'i dargedu.
Save preferences
Close

Ymunwch â'n cylchlythyr

Derbyn gwahoddiadau rhagolwg blaen

Cofrestru

* denotes required fields

We will process the personal data you have supplied in accordance with our privacy policy (available on request). You can unsubscribe or change your preferences at any time by clicking the link in our emails.