Art Drop '26 : Horses For Courses
Golwg llawn bywyd ar y Gymru gyfoes wrth i’n harddangosfa gyntaf eleni dynnu ynghyd artistiaid ar ddechrau gyrfa a rhai sydd wedi ennill eu plwy’, mewn sioe aeaf gynhwysol sy’n fentrus, yn onest ac wedi ei churadu gyda gofal mawr.
Y gaeaf hwn, mae Canfas yn cyflwyno ‘Horses for Courses’ sef arddangosfa gymysg llawn bywyd sy’n tynnu ynghyd artistiaid sydd wedi bod wrthi ers tro ochr yn ochr â dewis o leisiau newydd.
Natalie Chapman yw’r curadur, ac mae’r sioe yn dathlu gwaith sy’n archwilio pynciau sy’n absennol yn aml ar waliau orielau, gan gynnig perspectif amgen, cynhwysol, ffresh o onest ar ymarfer cyfoes yng Nghymru.
Mae ‘Horses for Courses’ yn rhychwantu ystod o gyfryngau, arddulliau a phrofiad bywyd gan daflu goleuni ar led a dyfnder y doniau celfyddydol sy’n frith drwy’r wlad. O’r ymarferwyr mentrus, profiadol i artistiaid ar ddechrau eu taith, mae’r arddangosfa yn dangos sut mae Cymru’n para i gynhyrchu gwaith sy’n feddylgar, yn heriol ac yn gyfoethog o amrywiol.
Trwy gynnwys gwahaniaeth cefndirol, thematig a ieithwedd artistig mae’r arddangosfa’n adlewyrchu Cymru gyfoes sy’ ddim yn ofni adrodd straeon newydd a gofyn cwestiynau anodd. O dan lygad guradurol graff Chapman, mae’r gweithiau’n sgwrsio yn ddeinamig gyda’i gilydd, gan ddangos cysylltiadau annisgwyl a gofidiau cytûn ar draws cenedlaethau ac ymarferion.
MAE ORIEL CANFAS YN CYHOEDDI
‘HORSES FOR COURSES’
WEDI EI GURADU GAN NATALIE CHAPMAN
I’W RYDDHAU’N SYTH – Rhagfyr 19, 2025
Heddiw, mae Oriel Canfas, sef lleoliad bywiog ar gyfer celfyddyd gyfoes yn Aberteifi, yn cyhoeddi lansiad arddangosfa newydd wedi ei churadu gan Natalie Chapman. Mae arddull weledol fentrus a phortreadau cymdeithasol Chapman wedi denu sylw cyfryngau cenedlaethol yn ogystal â chydnabyddiaeth o fewn y gymuned gelfyddyd gain.
“I fi, y peth mwyaf diddorol yw pobol sy’ wedi wynebu heriau a dod drwyddi, dyna lle mae cyfoeth bywyd,” meddai Natalie Chapman. “Pwy’n well i adrodd stori ddiddorol am eu bywydau na’r bobl sydd wedi mynd trwy’r cyfan?”
Mae ‘Horses for Courses’ yn agor ar Ionawr 10ed 2026 gan groesawu’r Flwyddyn Newydd yn Canfas gyda sioe grŵp sy’n tynnu ynghyd waith deg o artistiaid gwahanol, ffotograffwyr, dylunwyr a seramegwyr. Mae’r arddangosfa yn archwilio syniadau a gwaith celf sydd ar gyrion cymdeithas.
Mae ‘Horses for Courses’ yn agor ar Ionawr 10ed 2026 hyd Chwefror 28 2026. Mae’r Oriel ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn 10.30yb – 4yp. Gellir prynu yr holl waith celf yn yr oriel neu ar-lein.

