Canfas company logo
Canfas
Skip to main content
  • Menu
  • Artistiaid
  • Arddangosfeydd
  • Cysylltwch
  • Digwyddiadau
  • Archif
  • EN
  • CY
Cart
0 items £
Checkout

Eitem wedi'i hychwanegu at y drol

View cart & checkout
Parhau i siopa
Menu
  • Menu
  • Menu
  • EN
  • CY
Annie Morgan Suganami
Olion Bywyd wedi'i gyd-gyflwyno gyda TEN Caerdydd, 28 February - 28 March 2026

Annie Morgan Suganami: Olion Bywyd wedi'i gyd-gyflwyno gyda TEN Caerdydd

Gorffennol exhibition
  • Trosolwg
  • Gweithiau
  • Installation Views
  • Datganiad
  • Artistiaid cysylltiedig
Trosolwg
Ffrog Wlan
Ffrog Wlan

Cat Gardiner o Gallery TEN guradodd Olion Bywyd, yr arddangosfa gyntaf ar y cyd rhwng Aberteifi a Chaerdydd.

Cwrdd yr Artist 7 Mawrth 1-3yp

In honour of International Women's Day, Canfas is proud to present Gallery TEN’s exhibition of paintings by Machynlleth based Annie Morgan Suganami, curated by Cat Gardiner.

 At the heart of Suganami’s work are the matriarchs — the elderly women who shaped family and community life, yet are so often overlooked by society. In her exhibition Olion Bywyd - Life Lines, Suganami turns her gaze solely to portraiture, giving these women the dignity and visibility they deserve.

Known for both her portraits and still life paintings, Suganami brings tremendous tenderness, humour, and love to her sitters — as if they represent all those quiet heroines whose influence endures across generations.

Her rich, flowing paintings demonstrate a confident mastery of the brush. The paint is reworked again and again — built up, rubbed back and rebuilt — before being accented with strong outlines and flashes of neon. With a single skilful gesture, the curve of a shoulder, the fold of a sleeve, or the weight of a blouse comes alive. This ease with paint gives her portraits vitality and warmth, ensuring her subjects feel present and dynamic rather than formal or posed.

The interplay of fine detail and loose, immediate marks offers a multitude of visual entry points, while the degree to which Suganami balances these elements varies from work to work — reflecting the individuality and character of each sitter.

Rhannu
  • Facebook
  • X
  • Pinterest
  • Tumblr
  • Email
Gweithiau
  • Annie Morgan Suganami, Breichiau Cryf / Strong Arms
    Annie Morgan Suganami, Breichiau Cryf / Strong Arms
  • Annie Morgan Suganami, Chwaer Geraint / Geraint’s Sister
    Annie Morgan Suganami, Chwaer Geraint / Geraint’s Sister
  • Annie Morgan Suganami, Cofio Gatre / Remembering Home
    Annie Morgan Suganami, Cofio Gatre / Remembering Home
  • Annie Morgan Suganami, Cot Fawr / Overcoat
    Annie Morgan Suganami, Cot Fawr / Overcoat
  • Annie Morgan Suganami, Cymydog/Neighbour
    Annie Morgan Suganami, Cymydog/Neighbour
  • Annie Morgan Suganami, Dwi di Gweld y Cwbwl / I’ve Seen it All
    Annie Morgan Suganami, Dwi di Gweld y Cwbwl / I’ve Seen it All
  • Annie Morgan Suganami, Dwylo Caredig / Kind Hands
    Annie Morgan Suganami, Dwylo Caredig / Kind Hands
  • Annie Morgan Suganami, Dwylo Gweithgar / Work Hands
    Annie Morgan Suganami, Dwylo Gweithgar / Work Hands
  • Annie Morgan Suganami, Edrych yn Ol / Looking back
    Annie Morgan Suganami, Edrych yn Ol / Looking back
  • Annie Morgan Suganami, Ffroc Orau / Best Dress
    Annie Morgan Suganami, Ffroc Orau / Best Dress
  • Annie Morgan Suganami, Ffroc Wlan / Woollen Dress
    Annie Morgan Suganami, Ffroc Wlan / Woollen Dress
  • Annie Morgan Suganami, Fy Hoff Gadair / My Favourite Chair
    Annie Morgan Suganami, Fy Hoff Gadair / My Favourite Chair
  • Annie Morgan Suganami, Fy Nghymydog Da / My Good Neighbour
    Annie Morgan Suganami, Fy Nghymydog Da / My Good Neighbour
  • Annie Morgan Suganami, Gwisgo Lan / Dressing Up
    Annie Morgan Suganami, Gwisgo Lan / Dressing Up
  • Annie Morgan Suganami, Gwyrdd Gorau / Best Green
    Annie Morgan Suganami, Gwyrdd Gorau / Best Green
  • Annie Morgan Suganami, Hen Athrawes / Old Teacher
    Annie Morgan Suganami, Hen Athrawes / Old Teacher
  • Annie Morgan Suganami, Hen Frog Wlan/Old Woollen Dress
    Annie Morgan Suganami, Hen Frog Wlan/Old Woollen Dress
  • Annie Morgan Suganami, Hen Wisg / Old Costume
    Annie Morgan Suganami, Hen Wisg / Old Costume
  • Annie Morgan Suganami, Llygaid Gleision/Blue Eyes
    Annie Morgan Suganami, Llygaid Gleision/Blue Eyes
  • Annie Morgan Suganami, Mamgu / Grandmother
    Annie Morgan Suganami, Mamgu / Grandmother
  • Annie Morgan Suganami, Marged
    Annie Morgan Suganami, Marged
  • Annie Morgan Suganami, Oes/Age
    Annie Morgan Suganami, Oes/Age
  • Annie Morgan Suganami, Olion Bywyd / Life Lines
    Annie Morgan Suganami, Olion Bywyd / Life Lines
  • Annie Morgan Suganami, Sgert Fawr / Big Skirt
    Annie Morgan Suganami, Sgert Fawr / Big Skirt
  • Annie Morgan Suganami, Sgert Sidan / Silk Skirt
    Annie Morgan Suganami, Sgert Sidan / Silk Skirt
  • Annie Morgan Suganami, Sgert Wlan / Woollen Skirt
    Annie Morgan Suganami, Sgert Wlan / Woollen Skirt
  • Annie Morgan Suganami, Siol Proffor / Purple Shawl
    Annie Morgan Suganami, Siol Proffor / Purple Shawl
  • Annie Morgan Suganami, Tlws Jet/Jet Brooch
    Annie Morgan Suganami, Tlws Jet/Jet Brooch
  • Annie Morgan Suganami, Ystyried / Considering
    Annie Morgan Suganami, Ystyried / Considering
Installation Views
  • Img 2091
  • Img 2102
  • Img 2143
  • Img 2153
  • Img 2146
  • Img 9876
  • Img 2150
  • Img 2054
Datganiad

DATGANIAD * PRESS RELEASE

cyd-gyflwynir gan • co-presented by TEN Caerdydd x Oriel Canfas Aberteifi

Annie Morgan Suganami Olion Bywyd • Life Lines

28|02 - 28|03|26

MAE ORIEL CANFAS ABERTEIFI A TEN CAERDYDD YN UNO AR GYFER DIWRNOD RHYNGWLADOL Y MERCHED GYDA ‘OLION BYWYD • LIFE LINES’ — DATHLIAD TYNER O FENYWOD CYMRU TRWY BORTREADAU GAN YR ARTIST NODEDIG ANNIE MORGAN SUGANAMI

Cwrdd â'r Artist Dydd Sadwrn 7 Mawrth 1-3pm Oriel Canfas, Grosvenor Hill, Aberteifi SA43 1HY Arddangosfa yn parhau tan 28 Mawrth

I nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2026, mae Oriel Canfas Aberteifi a TEN Caerdydd yn dod at ei gilydd mewn cydweithrediad rhyfeddol i gyflwyno ‘Olion Bywyd • Life Lines’ - arddangosfa ymweld gan yr artist Annie Morgan Suganami sy’n anrhydeddu gwydnwch, hiwmor a chryfder tawel menywod Cymru, wedi'i churadu gan Cat Gardiner o TEN.

‘Mae’n amseri perffaith i ehangu cyrhaeddiad y corff gwaith rhyfeddol hwn gan Suganami - roedd yn boblogaidd gydag ymwelwyr yr oriel pan gafodd ei ddangos gyntaf, ac yn waith celf mor bwysig a chwyldroadol. Bydd portreadau newydd yn cael eu cynnwys yn yr ail fersiwn hon - ychwanegiadau pellach i griw hoffus Suganami. Pleser pur yw cydweithio ar yr arddangosfa yma - partneriaeth sy’n deillio o argyhoeddiad a rennir rhwng Canfas a TEN o rôl orielau mewn cefnogi'r celfyddydau ac artistiaid ein gwald,” meddai Cat Gardiner o TEN.

Wedi'u gwreiddio yn y gred y gall celf roi llais i'r rhai sy'n aml yn cael eu hanghofio, mae'r ddwy oriel yn uno eu rhaglenni ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched i anrhydeddu menywod - nid yn unig fel pynciau, ond fel adroddwyr straeon, angorau a thystion i'w hoes.

Mae pob un o’r gwragedd yn ganolbwynt y llun, yn sitters clasurol sydd yn eistedd i gael eu paentio a’u cofnodi - a’u cofio. Mae ambell awgrym o wisg traddodiadol yma - y siôl, yn frethyn streipiog neu ffedog. Ond yn y croen mae manyldeb cain y paentio, gyda’r wyneb a’r dwylo yn y gôl yn tynnu’r sylw.

Does dim cuddio yma, dim harddu di-angen, dim botox na’i gyffelyb ond yn hytrach y  corff a’i osgo naturiol, onest. Gwelwn hanes a phrofiad bywyd yn y croen â’i marciau a’i chrychau - tystiolaeth o oes o garu a galar, o boeni a chwerthin, o gario, gofalu a gwneud. Dyma wragedd sydd wedi byw, â braint y blynyddoedd hir wedi’u selio yn y croen meddal.

Mae paentiadau cyfoethog, llifeiriol Suganami yn dangos sgìl hyderus ei brwsh. Ail-weithir y paent dro ar ôl tro, gyda haenau yn cael eu hadeiladu, eu rhwbio’n ôl a’u ail-adeiladu drachefn, cyn eu coroni ag amlinelliadau cryf a fflachiadau neon. Gyda un llinell medrus y brwsh daw ysgwydd blows, plyg llawes a bron drom i’r golwg. Mae’r rhwyddineb y mae Suganami yn defnyddio’i chyfrwng yn golygu nad yw ei phynciau yn anystwyth a ffurfiol ond yn hytrach yn fywiog a deinamig. Mae’r cyfuno o fanyldeb praff ochr yn ochr â marciau bras o fewn un paentiad yn cynnig amrywiaeth o bwyntiau diddorol i’r llygad. Wrth i gyfanswm y cyfuniad yma amwyrio o un llun i’r llall, ychwanega hyn at bersonoliaethau gwahanol y gwragedd i gyd.

 Un o lwyddiannau’r gyfres hwn yw’r tynerwch, yr hiwmor a’r cariad aruthrol a ddangosir at yr eisteddwyr – fel petaent yn cynrychioli’r holl wragedd oedrannus a gafodd effaith dawel ar y cenedlaethau a ddilynodd. Y matriarchiaid hynny - yn ganolog i fywyd teuluol, wedi’u hesgeuluso gan gymdeithas - yn deilwng o gael eu hymgorffori mewn paent.

Geiriau’r Artist 

"Ni allaf ddychmygu fy mywyd heb allu gwneud paentiadau o bobl.

Ers i mi ddechrau peintio pobl, boed o arsylwi neu’n ddychmygol, rwyf bob amser yn peintio cymeriadau sy'n dangos dyfalbarhad, dycnwch, gonestrwydd a charedigrwydd. Nhw yw fy eiconau personol o ddygnwch yn y cyfnod cynyddol ansicr hwn." 


Mae Annie Morgan Suganami [g. 1952] yn artist Gymreig sy'n byw ac yn gweithio ar hyn o bryd ym Machynlleth, Cymru. Newidiodd ei bwriad yn ei harddegau o fod yn artist gweledol er mwyn astudio'r ffliwt yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain. Wedi gweithio fel cerddor am 45 mlynedd, astudiodd yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, gan raddio yn 2015.
Mae gwaith Suganami wedi bod yn bennaf ffigurol, gan gynnwys portreadaeth. Mae portreadau diweddar yn cynnwys Jan Morris, Menna Elfyn a Georgia Ruth — ac yn 2022 cafodd ei phortreadau o Catrin Finch, Cerys Hafana a hunanportread eu caffael gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ar gyfer casgliad cyhoeddus a pharhaol y genedl. Mae wedi arddangos mewn nifer o sioeau grŵp ac unigol yng Nghymru a Lloegr, ac mae wedi cael ei dewis ar gyfer amrywiol gystadlaethau celf yn y DU gan gynnwys Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
Casgliadau Cyhoeddus
Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Artist cysylltiedig

  • Annie Morgan Suganami

    Annie Morgan Suganami

Yn ôl i'r arddangosfeydd
Polisi Hygyrchedd
Rheoli cwcis
Hawlfraint 2026 Canfas
Site by Artlogic

Oriel Canfas Gallery

Manchester House, Aberteifi SA43 1HY  info@canfas.co.uk   01239 614344

Facebook, opens in a new tab.
Instagram, opens in a new tab.
Ymunwch â'r rhestr bostio
Anfon e-bost
View on Google Maps

This website uses cookies
This site uses cookies to help make it more useful to you. Please contact us to find out more about our Cookie Policy.

Rheoli cwcis
Reject non essential
Accept

Dewisiadau cwcis

Check the boxes for the cookie categories you allow our site to use

Cookie options
Required for the website to function and cannot be disabled.
Improve your experience on the website by storing choices you make about how it should function.
Caniatáu i ni gasglu data defnydd anhysbys er mwyn gwella'r profiad ar ein gwefan.
Caniatáu i ni adnabod ein hymwelwyr er mwyn cynnig marchnata personol wedi'i dargedu.
Save preferences
Close

Ymunwch â'n cylchlythyr

Derbyn gwahoddiadau rhagolwg blaen

Cofrestru

* denotes required fields

We will process the personal data you have supplied in accordance with our privacy policy (available on request). You can unsubscribe or change your preferences at any time by clicking the link in our emails.