Ceri H Pritchard : Cyflyrau Newidiol
Yn yr arddangosfa hon mae’r artist Cymreig Ceri H Pritchard yn bwrw i edrych ar ansicrwydd bodolaeth cyfoes trwy iaith weledol arbrofol, aflonydd sy’n trawsffurfio profiad bywyd yn ddelweddau swreal, grymus.
Mae gwaith Ceri yn mapio cyfres o diroedd seicolegol lle mae cysur ac anghysur, rhesymeg ac absẃrdaeth yn negodi’n barhaol. Mae ei waith yn deillio o’i ymwybyddiaeth gref o gyflwr simsan y byd ry’n ni’n byw ynddo, lle mae grymoedd naturiol ac o waith dyn yn croesi ei gilydd mewn cydbwysedd ansicr. Gan ddatblygu trwy brofiad bywyd a phroses stiwdio reddfol, mae’r paentiadau’n toddi ynghyd ffurfiau addurniadol a chynrychioliadol, gan archwilio ynni emosiynol siâp, lliw a phatrwm. Mae motiffau sy’n ail-adrodd yn awgrymu sut mae technoleg yn araf lithro mewn i ofod clos a phreifat y cartref, gan awgrymu rhyfeddod ac anesmwythyd heb gynnig datrysiad. Yn hytrach na chwilio am ystyr penodol, mae’r delweddau hyn yn cofnodi cadwyn o ymatebion, adolygiadau a throeon pedol, lle mae themâu’n bwrw mewn i’w gilydd, yn ffrwydro ac yn ail gyflunio. Mae Cyflyrau Newidiol/ Altered States yn cyflwyno ymarfer paentio Ceri fel cyfuniad o hunan-ymholiad a dogfennu cyfoes mewn ymgais barhaol i gadw cydbwysedd rhwng teimladau mewnol â’r teimladau gwrthwynebol yn aml sy’n nodweddu bywyd heddiw.
-
Ceri H. Pritchard, A Matter of Fact I -
Ceri H. Pritchard, A State of Mind -
Ceri H. Pritchard, All at Sea I -
Ceri H. Pritchard, All at Sea II -
Ceri H. Pritchard, An Evening In -
Ceri H. Pritchard, Anthropomorphic Afternoon -
Ceri H. Pritchard, Communication Breakdown -
Ceri H. Pritchard, Chesterfield -
Ceri H. Pritchard, Conspiracy -
Ceri H. Pritchard, Convergence I -
Ceri H. Pritchard, Convergence II -
Ceri H. Pritchard, Convergence III -
Ceri H. Pritchard, Convergence IV -
Ceri H. Pritchard, Escape -
Ceri H. Pritchard, Fall Out -
Ceri H. Pritchard, Latis Excelsior -
Ceri H. Pritchard, Llyf -
Ceri H. Pritchard, More Awful Things -
Ceri H. Pritchard, Purple Haze -
Ceri H. Pritchard, Systems of Belief -
Ceri H. Pritchard, The State of Things -
Ceri H. Pritchard, Trouble Down the Road I -
Ceri H. Pritchard, Trouble Down the Road II -
Ceri H. Pritchard, Trouble Down the Road III -
Ceri H. Pritchard, Trouble Down the Road IV -
Ceri H. Pritchard, Uncertain Times I -
Ceri H. Pritchard, Uncertain Times II -
Ceri H. Pritchard, Uncertain Times III -
Ceri H. Pritchard, Uncertain Times IV -
Ceri H. Pritchard, Wiggle

