Gillian McDonald : Presenoldeb mewn Amser
Yn yr arddangosfa hon, mae Gillian McDonald yn dehongli meini hirion cyn-oesol sir Benfro fel trothwyon goleuol rhwng hanes a’r dychymyg.
Mae paentiadau Gillian wedi eu gwreiddio yn yr un tir hynafol sy’n angori meini hirion sir Benfro – goruchwylwyr tawel sydd wedi gwylio dros y ddaear ers miloedd o flynyddoedd. Llestri sy’n dal cof a chwedl yw’r monolithau yma, a ffurfiwyd gan amser a defosiwn dynol. Yng ngwaith Gillian, mae nhw’n dod yn bwyntiau llonydd mewn tirwedd fyw, yn cysylltu hen rythmau’r ddaear gyda’r curiad creadigol oesol.
Mae ei harwynebeddau cyfrwng-cymysg yn adleisio ansawdd meini a dreuliwyd gan dywydd – wedi eu herydu, yn llawn goleuni ac awdurdod distaw. Mae pob cyfansoddiad yn gwahodd y gwyliwr i sefyll ar y trothwy rhwng presenoldeb ac absenoldeb, lle mae cerrig yn siarad, nid mewn geiriau ond trwy adlais.
Mae’r arddangosfa hon yn archwilio’r ddeialog rhwng y parhaol a’r trawsnewidiol: sut mae meini hynafol yn parhau i ffurfio’r dychymyg a sut mae’r dirwedd yn dal ôl y rhai a fu’n chwilio am ystyr yn ei ehangder mawr. Mae celfyddyd Gillian yn galw ar y meini hirion, nid fel creiriau ond fel presenoldebau byw – gwarcheidwaid goleuni, amser a’r reddf ddynol i greu.
Arddangosfa o 31 Mawrth – 25 Ebrill
Derbyniad a diod Ebrill 11 1-3 yp. Croeso i bawb
-
Gillian McDonald, Abereiddy Slate I -
Gillian McDonald, Abereiddy Slate II -
Gillian McDonald, Abereiddy Slate Study -
Gillian McDonald, Blue Stone II -
Gillian McDonald, Blue Stone Study I -
Gillian McDonald, Goddess Stone -
Gillian McDonald, Preseli Stones II -
Gillian McDonald , Preseli Stones III -
Gillian McDonald, Preseli Stones IV -
Gillian McDonald , Standing Stone Study III -
Gillian McDonald, Preseli Stones I
I’W RYDDHAU’N SYTH
MEINI HIRION AC ATSEINIAU BYW:
CELF YN DATHLU DYCHWELIAD YR EISTEDDFOD I ABERTEIFI YN ORIEL CANFAS
Gillian McDonald a Nicola Beattie yn Oriel Canfas, Aberteifi
Derbyniad a diod a Chwrdd â’r Artist
Sadwrn 11 Ebrill, 13.00-15.00
Arddangosfa o 31 Mawrth – 25 Ebrill 2026
___________________
Wrth i’r gwanwyn ddeffro ar draws Gorllewin Cymru, mae Aberteifi a Oriel Canfas yn paratoi i ddathlu dychweliad hir-ddisgwyliedig yr Eisteddfod – fwy na 850 mlynedd wedi’r Eisteddfod gyntaf yng Nghastell Aberteifi.
Yn y cyfnod o groesawu’r Ŵyl nol i Aberteifi yn hwyrach eleni, mae Oriel Canfas, Noddwyr Medal Aur yr Eisteddfod 2026 am Gelfyddyd Gain, yn cyflwyno Meini Hirion ac Atseiniau Byw, dwy arddangosfa ym mhleth gan yr arlunydd Gillian McDonald a’r cerflunydd Nicola Beattie, sydd â’u hymarfer yn ddwfn yn nhirwedd Gorllewin Cymru. Gan dynnu eu hysbrydoliaeth o feini hirion sir Benfro – ceidwaid cof parhaol amser, dychymyg a pherthyn – mae’r artistiaid yn archwilio’r tir fel atgof ac anian, lle mae arwynebedd, goleuni a gwead yn troi’n iaith gwytnwch ac adferiad.
Eleni, mae’r Eisteddfod yn ardal y Garreg Las, ardal a enwyd oblegid y garreg las sy’n diffinio’r ardal a’i hetifeddiaeth ddiwylliannol. Yr un dirwedd sy’n amlwg yng ngwaith McDonald a Beattie, gan wreiddio’u celf yn y ddeialog elfennol rhwng carreg, amser a’r cyffyrddiad dynol.
“Gyda’r Eisteddfod yn dod nol i Aberteifi wedi cymaint o ganrifoedd, mae teimlad cryf o ddychweliad,” meddai James Horan, Cyfarwyddwr yn Oriel Canfas. “Mae’r arddangosfeydd yn tyfu o’r un dirwedd a ffurfiodd ein cerddi a’n celf, gan ddathlu’r tir a’r ysbryd sy’n dal i ddiffinio calon greadigol Aberteifi.”
Gyda’i gilydd, mae arddangosfeydd McDonald a Beattie yn adleisio ysbryd Eisteddfod y Garreg Las, gan anrhydeddu ei dychweliad i’r dref lle cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf oll. Mae eu gwaith yn wrthgyferbyniad i’r caneuon, y cerddi a’r perfformiadau fydd yn atseinio trwy Aberteifi – casgliad o leisiau a gweledigaethau sy’n adlewyrchu pŵer parhaus creadigrwydd Cymreig.

