Patricia McParlin RCA: Flux: The Shift of Seasons
Mae’r corff diweddaraf hwn o waith yn ymwneud â’r gofodau trothwyol rhwng y tymhorau – y symudiadau cynnil sy’n arwydd bod newid ar droed: yr arogl yn yr awyr wrth i’r Hydref gyrraedd, yr eirlys cyntaf a’r sylweddoliad araf fod y Gwanwyn efallai yn y tir eisoes...
Mae fy niddordeb dwfn yn y gofodau cyfnewidiol hyn yn deillio o lyfr o ddyddiau plentyndod. Ar y dudalen weili yn y blaen roedd golygfa o fyd natur yn yr Haf; ar yr un yn y cefn, yr un olygfa yn y Gaeaf. Byddwn yn eistedd, gan fynd nôl a ‘mlaen rhwng y ddwy ddelwedd, yn cymharu’r newidiadau yn y dirwedd. Roedd rhai yn fach iawn, prin y gallech eu gweld, tra roedd eraill yn sylweddol. Ro’n i’n rhyfeddu at wyrth y tymhorau– sut y gallai goleuni, lliw, awyrgylch a ffurf drawsffurfio yr un dirwedd yn rhywbeth hollol wahanol.
Mae’r gweithiau hyn yn archwilio’r newidiadau hyn rhwng Gaeaf a Gwanwyn, Gwanwyn a Haf, Haf a Hydref a Hydref a Gaeaf. Mae fy niddordeb yn gorwedd yn y gofodau sydd rhwng y tymhorau – y cyfnodau hynny pan fydd un stad yn graddol droi yn stad wahanol - yn fwy nag archwilio’r tymhorau eu hunain. Mae strwythur cryf, pensaernïol bron, yn gosod fframwaith ar gyfer pob cyfansoddiad. Yn erbyn y teimlad hwn o drefn, defnyddir osgo marciau greddfol, llinell, gweadwaith a thestun i amharu ar a siglo’r strwythur sy’n sail i’r gwaith. Mae’r broses yma o adeiladu, amharu, cuddio a datgelu yn ganolog i’r darnau. Mae’n adlewyrchu natur newidiadau tymhorol – croniad a diflaniad lliw, goleuni, gwead a ffurf, a’r teimlad fod rhywbeth bob amser yn dod i’r golwg wrth i rywbeth arall gilio.
Mae gen i ddiddordeb yn y synnwyr yna o lif – flux – sef y symudiad cyson o un stad i un arall, a’r eiliadau tawel pan fydd y newid yna i’w ganfod. Mae’r paentiadau hyn yn archwilio’r teimlad o lif/flux – trawsffurfiad, byrhoedledd a’r gofodau trothwyol sydd rhyngddyn nhw.

