Nicola Beattie: Olion Tawel
Mae cerfluniau Nicola Beattie, sydd wedi eu gwreiddio yn nhirweddau hynafol sir Benfro, yn cyfleu gwytnwch a breuder – ffurfiau wedi eu naddu sy’n dal atgof y tir.
Mae Nicola Beattie yn cael ei hysbrydoli gan bresenoldeb oesol tirweddau sir Benfro – y meini hirion, adfeilion cestyll a chreiriau wedi eu gwisgo gan dywydd, lle mae amser fel petai’n sefyll yn stond. Trwy ei hymarfer, mae Nicola’n archwilio’r ddeialog rhwng heddwch a gwrthdaro, gwytnwch a breuder. Mae ei ffurfiau a naddwyd, sy’n gryf a myfyrgar ar yr un pryd, yn dal atgof o’r tir: arwynebeddau sy’n dal ôl rhyw ymrafael, wynebau llyfn sy’n cynnig eiliad o heddwch. Mae bwâu golosgedig a phileri telynegol yn awgrymu tywyllwch a noddfa, gan adlewyrchu cydbwysedd rhwng hanes dynol a llonyddwch naturiol. Mae cerfluniau Nicola’n gwahodd cyfarfyddiad tawel – i ymdrochi ym mhresenoldeb, atgof a harddwch oesol yr hyn sy’n weddill.
Arddangosfa o 31 Mawrth – Ebrill 25
Derbyniad a diod 11 Ebrill 1-3yp
Croeso i bawb
-
Nicola Beattie, Ascent -
Nicola Beattie, Blade -
Nicola Beattie, Celt -
Nicola Beattie, Dawn -
Nicola Beattie, Paso -
Nicola Beattie, Pileri -
Nicola Beattie, River Pod -
Nicola Beattie, Sentinel -
Nicola Beattie, Torr -
Nicola Beattie, Gwarchodwr -
Nicola Beattie, Visori -
Nicola Beattie, Solitude -
Nicola Beattie, Era -
Nicola Beattie, Camino -
Nicola Beattie, Smokespeare -
Nicola Beattie, Portal
I’W RYDDHAU’N SYTH
MEINI HIRION AC ATSEINIAU BYW:
CELF YN DATHLU DYCHWELIAD YR EISTEDDFOD I ABERTEIFI YN ORIEL CANFAS
Gillian McDonald a Nicola Beattie yn Oriel Canfas, Aberteifi
Derbyniad a diod a Chwrdd â’r Artist
Sadwrn 11 Ebrill, 13.00-15.00
Arddangosfa o 31 Mawrth – 25 Ebrill 2026
___________________
Wrth i’r gwanwyn ddeffro ar draws Gorllewin Cymru, mae Aberteifi a Oriel Canfas yn paratoi i ddathlu dychweliad hir-ddisgwyliedig yr Eisteddfod – fwy na 850 mlynedd wedi’r Eisteddfod gyntaf yng Nghastell Aberteifi.
Yn y cyfnod o groesawu’r Ŵyl nol i Aberteifi yn hwyrach eleni, mae Oriel Canfas, Noddwyr Medal Aur yr Eisteddfod 2026 am Gelfyddyd Gain, yn cyflwyno Meini Hirion ac Atseiniau Byw, dwy arddangosfa ym mhleth gan yr arlunydd Gillian McDonald a’r cerflunydd Nicola Beattie, sydd â’u hymarfer yn ddwfn yn nhirwedd Gorllewin Cymru. Gan dynnu eu hysbrydoliaeth o feini hirion sir Benfro – ceidwaid cof parhaol amser, dychymyg a pherthyn – mae’r artistiaid yn archwilio’r tir fel atgof ac anian, lle mae arwynebedd, goleuni a gwead yn troi’n iaith gwytnwch ac adferiad.
Eleni, mae’r Eisteddfod yn ardal y Garreg Las, ardal a enwyd oblegid y garreg las sy’n diffinio’r ardal a’i hetifeddiaeth ddiwylliannol. Yr un dirwedd sy’n amlwg yng ngwaith McDonald a Beattie, gan wreiddio’u celf yn y ddeialog elfennol rhwng carreg, amser a’r cyffyrddiad dynol.
“Gyda’r Eisteddfod yn dod nol i Aberteifi wedi cymaint o ganrifoedd, mae teimlad cryf o ddychweliad,” meddai James Horan, Cyfarwyddwr yn Oriel Canfas. “Mae’r arddangosfeydd yn tyfu o’r un dirwedd a ffurfiodd ein cerddi a’n celf, gan ddathlu’r tir a’r ysbryd sy’n dal i ddiffinio calon greadigol Aberteifi.”
Gyda’i gilydd, mae arddangosfeydd McDonald a Beattie yn adleisio ysbryd Eisteddfod y Garreg Las, gan anrhydeddu ei dychweliad i’r dref lle cynhaliwyd yr Eisteddfod gyntaf oll. Mae eu gwaith yn wrthgyferbyniad i’r caneuon, y cerddi a’r perfformiadau fydd yn atseinio trwy Aberteifi – casgliad o leisiau a gweledigaethau sy’n adlewyrchu pŵer parhaus creadigrwydd Cymreig.

