Natur: Cymundeb
Mae'r arddangosfa grŵp hon yn wahoddiad i edrych ar natur, yn hytrach na heibio iddi – i sylwi ar yr hyn sy'n tyfu, yn cyfuno ac yn parhau o'n cwmpas, ac i gydnabod ein lle ein hunain o fewn y byd.
Mae Natur yn dod ag artistiaid ynghyd sydd â'u gwaith wedi'i wreiddio mewn sylwi manwl ar y byd naturiol. Mae eu dulliau'n amrywio, ond mae pob un yn ymwneud â sut ry'n ni'n sylwi ar natur, yn ymateb iddi, ac yn gweithio ochr yn ochr â hi – trwy edrych yn ofalus, neu drwy brosesau a deunyddiau sy'n dod yn uniongyrchol ohoni. Gyda'i gilydd, mae'r gwaith yn adlewyrchu ein lle o fewn natur a'n dibyniaeth arni.
Gyda Sophie Myfanwy Wellan, Rose Sanderson, Marion Smylie, Vivienne Williams, Sigrid Müller, Sam & Apphia Ferguson-Ross.

