Trosolwg

Y Grŵp Cymreig yw’r gydweithfa broffesiynol bwysicaf i artistiaid yng Nghymru, sy’n cael ei chydnabod am gyfraniad hir o ddatblygu a thynnu sylw at gelfyddyd weledol gyfoes.

Y Grŵp Cymreig yw un o’r cydweithfeydd celfyddydol uchaf eu parch yng Nghymru. Cafodd ei sefydlu yn 1948 o dan yr enw South Wales Group, ac yn wreiddiol fe dynnodd ynghyd artistiaid amatur a phroffesiynol o chwe chymdeithas gelf flaenllaw yr ardal. Erbyn 1975, roedd y grŵp wedi datblygu yn gydweithfa broffesiynol a mabwysiadodd ei enw presennol, The Welsh Group: Y Grŵp Cymreig.

Ar hyd ei hanes, mae’r Grŵp wedi arddangos yn eang ledled Cymru ac yn rhyngwladol. Nid oes un mudiad, arddull na maniffesto yn diffinio ei aelodau, ond mae nhw wedi eu huno mewn ymroddiad i greu ac arddangos celfyddyd gyfoes o safon uchel. Mae’r Grŵp Cymreig yn meithrin ysbryd o gyfeillgarwch cryf a pherthyn ymhlith ei aelodau ac o fewn y gymuned artistig ehangach yn Nghymru. Gyda’i gilydd, mae nhw’n cynrychioli ystod o ddulliau cysyniadol a gweledol, wedi eu mynegi trwy amrywiaeth gwahanol o gyfryngau a phrosesau.