Gareth Hugh Davies
-
Bywgraffiad
Cwm Ryhmni
Medal Aur Celfyddyd Gain
Mae Gareth Hugh Davies yn fwyaf adnabyddus am y ddelweddaeth bwerus, enigmatig a hiraethlon yn ei baentiadau. Mae’r gyfres o baentiadau yn ganlyniad i waith allan ar leoliad a nôl yn y stiwdio. Mae popeth yn dechrau gyda lluniadu, a chofio. Maen nhw’n dechrau fel ymateb uniongyrchol i dirwedd benodol, ond trwy gael eu hail-weithio’n gyson a’u hail-archwilio gallan nhw drawsnewid, a hynny i’r graddau bod nodweddion y dirwedd yn mynd yn eilbeth a bod lle i ymateb personol mwy angerddol ddatblygu. Mae gwead ac arwynebedd yn bwysig i fi, natur materol y paent, sut mae’n ymateb ac yn parhau i synnu gyda’i allu i greu argraff o anferthedd gyda marc neu osgo bychan. Mae’n gallu mynegi yr hyn na ellir ei ddweud.
Meddai Magritte am ei gyfres o luniau ‘Empire of Light’ – ‘Mae’r dirwedd yn awgrymu nos a’r awyr yn awgrymu’r dydd. Mae’n ymddangos i mi bod gan naws y dydd a’r nos rym i’n rhyfeddu ac i’n llenwi â phleser. Rwy’n galw’r grym hwn yn: farddoniaeth’. Rwy’n credu fod y syniad yma o farddoniaeth wedi bod yn sail i ‘ngwaith diweddar, y syniad y gall rhywbeth na allwch ei gyffwrdd gael ei awgrymu gan gyfosodiad ffurf, lliw a llinell, Syniad o dirwedd, wedi ei ail-ddychmygu a’i ddwyn i gof i gyfleu teimlad a synnwyr o ofod seicolegol.
-
Cwm Rhymni 1990
-
Gweithiau
-
Artistiaid AUR
Artistiaid AUR-
Daniel Trivedy
-
Emrys Williams
-
Iwan Bala
-
Shani Rhys James
-
Sue Williams
-
Tim Davies
-
Elfyn Lewis
-
Eleri Mills
-
Gareth Griffith
-
Peter Finnemore
-
Philip Nicol
-
Simon Fenoulhet
-
Angharad Pearce Jones
-
Seán Vicary
-
Carwyn Evans
-
Rhian Haf
-
Peter Bodenham
-
Catrin Howell
-
Laura Thomas
-
Suzie Horan
-
Ann Catrin Evans
-
Verity Pulford
-
Julia Griffiths Jones
-
Brendan Stuart Burns
-
Richard Bevan
-
Gareth Hugh Davies
-
Sean Edwards
-
John Rowley
-
Bedwyr Williams
-
-
Contact Form
Anfonwch ragor o wybodaeth ataf amGareth Hugh Davies


