Sean Edwards
-
Bywgraffiad
Llanelli 2014
Medal Aur Celfyddyd Gain
Sean Edwards (g. Caerdydd, 1980) gydag MA o Ysgol Gelf Slade yn 2005 ac ar hyn o bryd mae’n Gyfarwyddwr Rhaglen Celfyddyd Gain a Ffotograffiaeth yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd.
Mae ei waith yn archwilio potensial cerfluniol a gwleidyddol pethau bob dydd, gan ddefnyddio gweddillion a darnau fel man cychwyn. Mae gwrthrychau’n ymddangos wrth fynd ymlaen ac yn agored i newidiadau, wedi eu nyddu gyda hanesion personol, teuluol a gwleidyddol trwy gerflunwaith, gosodiad cyfrwng-cymysg a gwaith clyw-weledol.
Cynrychiolodd Edwards Gymru yn 58ed Biennale Cymru yn Fenis (2019) gyda Undo Things Done, sef gosodiad a oedd yn mynd i’r afael â llymder, dosbarth, cywilydd a cholled, wedi ei seilio ar brofiad ei fagwraeth ei hunan ar stad gyngor. Roedd yn cynnwys drama radio fyw a berfformiwyd yn ddyddiol am saith mis gan ei fam, ac a addaswyd wedyn ar gyfer Radio 4. Derbyniodd Fwrsariaeth Gwobr Turner yn 2020. Mae wedi arddangos yn eang yn genedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys yng Nghanolfan Pompidou, Paris ac Oriel Lisson, Llundain ac mae ei waith mewn casgliadau cyhoeddus gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Cyngor y Celfyddydau a Chasgliad y Llywodraeth. Enillodd Sean y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli yn 2014. -
Fideo HD
29’45”
Mae pethau sy’n cael ‘eu gadael ar ôl’ neu eu ‘hanwybyddu’ o ddiddordeb i Sean Edwards, sy’n gwneud defnydd o ffotograffiaeth, gosodiadau a delwedd symudol i archwilio potensial cerfluniol pethau bob dydd. Yn 2009, cyflawnodd breswyliad yng nghanolfan siopa Maelfa yn Llanedeyrn ar gyrion Caerdydd, yn agos i’r man lle tyfodd i fyny. Adeiladwyd Maelfa yn y 1970au o amgylch bloc o fflatiau uchel ar stad gyngor ac ar un adeg roedd yn fan poblogaidd a phrysur, ond yn raddol dechreuodd fynd â’i ben iddo. Bellach mae’n rhan o gynllun adfer gwerth sawl miliwn o bunnoedd. Yn ystod ei breswyliad yn y ganolfan creodd Edwards gyfres o weithiau yn seiliedig ar arsylwi manwl yn y gofod a oedd bron yn adfail. Mae un o’r rhain, sef y ffilm araf, di-eiriau Maelfa (2010) yn cynnig siots hir a llyfn o arwynebeddau tu mewn yr adeilad. Yn fyfyriol ac yn brudd, mae’n adfyfyrio ar ddiflaniad cymunedau a fu unwaith yn fywiog, yn ogystal â gobeithion iwtopaidd a aeth i’r gwellt.
Gyda diolch i Gasgliad Celf Cyngor y Celfyddydau -
Gweithiau
-
Aur Artists
-
Contact Form
Anfonwch ragor o wybodaeth ataf amSean Edwards

