• Bywgraffiad

    Ynys Môn 2017

    Medal Aur am Grefft a Dylunio

    Ganwyd ym Mangor, Gogledd Cymru yn 1954, a magwyd yn Aberaeron, Ceredigion. Addysgwyd yn Ysgol Gelf Caerwynt ac yn y Coleg Celf Brenhinol. Enillodd Julia Ysgoloriaeth Cyngor Prydeinig i ymchwilio diwylliant Slofacia a dyma oedd dechreuad ei chysylltiad creadigol rhwng Cymru ac Ewrop. Mae ei gwaith wedi cael ei arddangos mewn orielau allweddol ym Mhrydain ac yn Ewrop. Tan fis Tachwedd 2026 mae hi’n arddangos yn “Infinite Line – the Story of Wire in Time ‘ yn ULUV Bratislava. Comisynau diweddar yn cynnwys Amgueddfa Sir Gar, y Ganolfan Wydr Genedlaethol a Ty Newton, Dinefwr.

  • YNYS MÔN 2017

    YNYS MÔN 2017

    YSTAFELL O FEWN STAFELL


    Dwi’n cael fy ysbrydoli a’m dylanwadu gan decstiliau a greuwyd gan wragedd ochr yn ochr a’u dyletswyddau beunyddiol. Dechreuodd hwn pan oen I’n fyfyrwraig yn y Coleg Celf Brenhinol. Yn 1977 enillais ysgoloriaeth I wneud gwaith ymchwil ac I ddarlunio tecstiliau yng ngwlad Pwyl a Slofacia, Yma gwelais Gelfyddid Werin am y tro cyntaf:wedi gweu trwy bob agwedd o fywyd. Yn raddol decreuais drosglwyddio fy narluniau I dri
    dimensiwn, gan ddefnyddio weiar a chefais fy hudoli gan bosibiliadau darlunio mewn gofod drwy ddefnyddio llinell a lliw. Yn 2016 fe grëais ‘Ystafell o Fewn Stafell ‘ gosodwaith pymtheg metr sgwar o
    eitemau’n hongian. Yr oedd yn drawsnewid materol o ddarluniau I siapau dur a weiar wedi weldio, ac yn hongian mewn haenau. Yr oen I Ieisiau I’r gwyliwr weld gofod domestig yn ei gyfanrwydd ynghyd a dillad a dodrefn – y cyfan yn creu tirwedd gysgod llinol. Yn 2017,enaillais y Fedal Aur Crefft a Dylunio gyda’r darn hwn yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn, a hefyd gwobr Josef Herman – dewis y bobl- am yr un gwaith.

  • Gweithiau
  • Artistiaid AUR

    Artistiaid AUR
  • Contact Form

    Anfonwch ragor o wybodaeth ataf amJulia Griffiths Jones

    Please fill in the fields marked with an asterisk
    Derbyn cylchlythyrau *

    * denotes required fields

    Er mwyn ymateb i'ch ymholiad, byddwn yn prosesu'r data personol a roddwyd gennych yn unol â'n polisi preifatrwydd (ar gael ar gais). Gallwch ddad-danysgrifio neu newid eich dewisiadau ar unrhyw adeg drwy glicio'r ddolen yn ein e-byst.