Peter Bodenham
-
Bywgraffiad
Wrecsam 2011
Medal Aur am Grefft a Dylunio
Mae llestri serameg a ffurfiau cerfluniol Peter Bodenham yn archwilio deunydd fel tyst diwylliannol a daearegol. Mae’r gwaith yn edrych yn ofalus ar archaeoleg oes yr Anthropocene, gan ddilyn sut mae gwrthrychau ac arwynebeddau yn cario hanesion amgylcheddol, straeon diwylliannol ac ymyrraeth ddynol dros gyfnod o amser. Trwy daflu ar olwyn, allwthio, adeiladu â llaw a phrosesau argraffu, mae Bodenham yn asio darnau o serameg a adferwyd yn lestri ac assemblage.
Casglwyd llawer o’r deunydd a adferwyd ar hyd arfordir Gorllewin Cymru, lle mae gwrthrychau a daflwyd, plastigion a darnau serameg wedi eu siapio gan lanw’r môr ac erydiad. Nid olion rhyw golled mo’r darnau hyn i Peter Bodenham, ond deunydd cynhyrchiol, yn cynnwys straeon am ddefnydd, am chwalu ac am adfywhad o fewn cylch bywyd y defnydd sy’n dal i ddigwydd.
-
Gweithiau
Peter Bodenham
Site & Place Series Number 5wall-mounted ceramic sculptural shelf and vessel£ 480.00Own Art
As low as 10 interest-free monthly payments of £48.00 and no deposit.5of 5AUR Artists
Contact FormAnfonwch ragor o wybodaeth ataf amPeter Bodenham

