Peter Bodenham
-
Bywgraffiad
Wrecsam 2011
Medal Aur am Grefft a Dylunio
Mae llestri serameg a ffurfiau cerfluniol Peter Bodenham yn archwilio deunydd fel tyst diwylliannol a daearegol. Mae’r gwaith yn edrych yn ofalus ar archaeoleg oes yr Anthropocene, gan ddilyn sut mae gwrthrychau ac arwynebeddau yn cario hanesion amgylcheddol, straeon diwylliannol ac ymyrraeth ddynol dros gyfnod o amser. Trwy daflu ar olwyn, allwthio, adeiladu â llaw a phrosesau argraffu, mae Bodenham yn asio darnau o serameg a adferwyd yn lestri ac assemblage.
Casglwyd llawer o’r deunydd a adferwyd ar hyd arfordir Gorllewin Cymru, lle mae gwrthrychau a daflwyd, plastigion a darnau serameg wedi eu siapio gan lanw’r môr ac erydiad. Nid olion rhyw golled mo’r darnau hyn i Peter Bodenham, ond deunydd cynhyrchiol, yn cynnwys straeon am ddefnydd, am chwalu ac am adfywhad o fewn cylch bywyd y defnydd sy’n dal i ddigwydd.
-
Cynhwyswyd fersiwn o blât Rebecca Peter Bodenham fel rhan o Arddangosfa Arbennig Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 2014, pryd cyd-weithiodd Peter gyda’r hanesydd lleol, y Parch Towyn Jones, ar arddangosfa o’r enw Dan yr Wyneb. Dangoswyd y plât ochr yn ochr â chragen dro fawr o gasgliad Amgueddfa Caerfyrddin a ddefnyddiwyd, yn ôl y sôn, i alw’r Merched Beca gwreiddiol i brotestiadau’r toll-byrth, gan greu llinell gyswllt uniongyrchol rhwng y cof hanesyddol a dehongliad cyfoes.
-
Gweithiau
-
Artistiaid AUR
Artistiaid AUR-
Daniel Trivedy
-
Emrys Williams
-
Iwan Bala
-
Shani Rhys James
-
Sue Williams
-
Tim Davies
-
Elfyn Lewis
-
Eleri Mills
-
Gareth Griffith
-
Peter Finnemore
-
Philip Nicol
-
Simon Fenoulhet
-
Angharad Pearce Jones
-
Seán Vicary
-
Carwyn Evans
-
Rhian Haf
-
Peter Bodenham
-
Catrin Howell
-
Laura Thomas
-
Suzie Horan
-
Ann Catrin Evans
-
Verity Pulford
-
Julia Griffiths Jones
-
Brendan Stuart Burns
-
Richard Bevan
-
Gareth Hugh Davies
-
Sean Edwards
-
John Rowley
-
Bedwyr Williams
-
-
Contact Form
Anfonwch ragor o wybodaeth ataf amPeter Bodenham

