Ivor Davies
-
Bywgraffiad
Tyddewi 2002
Medal Aur Celfyddyd Gain
Ganed Ivor Davies yn Nhreharris yn 1935 ac astudiodd yng ngholegau celf Caerdydd ac Abertawe o 1952-7. Bu’n athro yn Llundain a Phrifysgol Lausanne, 1959-61, lle dilynodd gyrsiau mewn Hanes Celf hefyd. Roedd yn ddarlithydd a chyfarwyddwr astudiaethau ym Mhrifysgol Caeredin, 1963-78. Mae ei ddoethuriaeth o Brifysgol Caeredin, ar Fodernïaeth Rwsiaidd a’i chysylltiadau rhyngwladol, wedi bod o ddiddordeb i nifer o gyhoeddiadau academaidd ym maes hanes celf. Fe oedd y cyntaf o guraduron Canolfan Gelfyddydol Talbot Rice Prifysgol Caeredin (ddaeth yn Oriel maes o law), 1970-8, lle curadodd 62 o arddangosfeydd. Daeth dros fil o ymwelwyr i’w arddangosfa arloesol o Gelfyddydd Kinetig, 1972.
Roedd yn Gyd-drefnydd a Chadeirydd y Symposiwm ar Ddinistriad mewn Celfyddyd yn 1962. Ei weithiau perfformiad-grŵp ef, a gynlluniwyd yn gywrain yn niwedd y 60au, oedd y cyntaf, o bosib, ym myd celfyddydol Prydain i ddefnyddio ffrwydron – nid fel dinistr ei hunan ond fel asiant, ynghyd â’r llanw, symudiad a phethau byrhoedlog eraill, cyfnewidioldeb, amser a chynrychiolaeth; y themâu a welwyd drosodd a thro mewn gwahanol ffyrdd ar hyd ei yrfa,
Yn 1977, derbyniodd Paul a Peter Davies ei gais i ymuno gydag e yn Rebecca, Bec(c)a wedi hynny, ac ymhlith yr aelodau a ddaeth wedyn oedd Pete Telfer, Iwan Bala, Tim Davies a Sara Rhoslyn Moore. Mae ei waith, sy’n amrywiol o ran genre, weithiau’n aml-ddisgyblaethol a chyd-weithiol, yn aml yn ymwneud â hanes, diwylliant a gwrthsafiad Cymreig.
Bu’n Bennaeth Astudiaethau Diwylliannol, Coleg Celf Gwent (Prifysgol De Cymru), 1978-88; Is-Lywydd Academi Frenhinol Cambrian, 1995 – 2011. Enillydd Medal Aur yr Eisteddfod 2002; aelod o Orsedd y Beirdd, 2003; Cymrawd Anrhydeddus, Prifysgol Caerdydd, 2019. Arddangosodd mewn 49 o sioeau unigol.
-
Gweithiau
Ivor Davies
Ffrwythau CochionOil on Canvas21cm x31cmAll proceeds of this sale will go to the Ivor Davies FoundationAll proceeds of this sale will go to the Ivor Davies Foundation
Dawns y Werin, Oil on Linen, 120cm x 90cm, £7000
Artistiaid AUR
Artistiaid AUR-
Daniel Trivedy
-
Emrys Williams
-
Iwan Bala
-
Shani Rhys James
-
Sue Williams
-
Tim Davies
-
Verity Pulford
-
Elfyn Lewis
-
Eleri Mills
-
Gareth Griffith
-
Peter Finnemore
-
Philip Nicol
-
Catrin Howell
-
Simon Fenoulhet
-
Angharad Pearce Jones
-
Rhian Haf
-
Seán Vicary
-
Suzie Horan
-
Carwyn Evans
-
Peter Bodenham
-
Laura Thomas
-
Brendan Stuart Burns
-
Ann Catrin Evans
-
Richard Bevan
-
Julia Griffiths Jones
-
Gareth Hugh Davies
-
Sean Edwards
-
John Rowley
-
Bedwyr Williams
-
Ivor Davies
Contact FormAnfonwch ragor o wybodaeth ataf amIvor Davies


