Canfas company logo
Canfas
Skip to main content
  • Menu
  • Artistiaid
  • Arddangosfeydd
  • Cysylltwch
  • Archif
  • EN
  • CY
Cart
0 items £
Checkout

Eitem wedi'i hychwanegu at y drol

View cart & checkout
Parhau i siopa
Menu
  • Menu
  • Menu
  • EN
  • CY

Ivor Davies

  • Bywgraffiad
  • Tyddewi 2002
  • Gweithiau
  • The Ivor Davies Award
  • Artistiaid AUR
  • Contact Form
  • Bywgraffiad
    Rhannu
    • Facebook
    • X
    • Pinterest
    • Tumblr
    • Email

    Tyddewi 2002

    Medal Aur Celfyddyd Gain

    Ganed Ivor Davies yn Nhreharris yn 1935 ac astudiodd yng ngholegau celf Caerdydd ac Abertawe o 1952-7. Bu’n athro yn Llundain a Phrifysgol Lausanne, 1959-61, lle dilynodd gyrsiau mewn Hanes Celf hefyd. Roedd yn ddarlithydd a chyfarwyddwr astudiaethau ym Mhrifysgol Caeredin, 1963-78. Mae ei ddoethuriaeth o Brifysgol Caeredin, ar Fodernïaeth Rwsiaidd a’i chysylltiadau rhyngwladol, wedi bod o ddiddordeb i nifer o gyhoeddiadau academaidd ym maes hanes celf. Fe oedd y cyntaf o guraduron Canolfan Gelfyddydol Talbot Rice Prifysgol Caeredin (ddaeth yn Oriel maes o law), 1970-8, lle curadodd 62 o arddangosfeydd. Daeth dros fil o ymwelwyr i’w arddangosfa arloesol o Gelfyddydd Kinetig, 1972.

    Roedd yn Gyd-drefnydd a Chadeirydd y Symposiwm ar Ddinistriad mewn Celfyddyd yn 1962. Ei weithiau perfformiad-grŵp ef, a gynlluniwyd yn gywrain yn niwedd y 60au,  oedd y cyntaf, o bosib, ym myd celfyddydol Prydain i ddefnyddio ffrwydron – nid fel dinistr ei hunan ond fel asiant, ynghyd â’r llanw, symudiad a phethau byrhoedlog eraill, cyfnewidioldeb, amser a chynrychiolaeth; y themâu a welwyd drosodd a thro mewn gwahanol ffyrdd ar hyd ei yrfa,

    Yn 1977, derbyniodd Paul a Peter Davies ei gais i ymuno gydag e yn Rebecca, Bec(c)a wedi hynny, ac ymhlith yr aelodau a ddaeth wedyn oedd Pete Telfer, Iwan Bala, Tim Davies a Sara Rhoslyn Moore. Mae ei waith, sy’n amrywiol o ran genre, weithiau’n aml-ddisgyblaethol a chyd-weithiol, yn aml yn ymwneud â hanes, diwylliant a gwrthsafiad Cymreig.

    Bu’n Bennaeth Astudiaethau Diwylliannol, Coleg Celf Gwent (Prifysgol De Cymru), 1978-88; Is-Lywydd Academi Frenhinol Cambrian, 1995 – 2011. Enillydd Medal Aur yr Eisteddfod 2002; aelod o Orsedd y Beirdd, 2003; Cymrawd Anrhydeddus, Prifysgol Caerdydd, 2019. Arddangosodd mewn 49 o sioeau unigol.

     

  • Tyddewi 2002

    Mae’r tri darn yn drwm-lwythog o symbolau a thestun ynghudd, ac eto yn ymwrthod â chael eu gweld fel sloganau – a gyda’i gilydd maen nhw’n cysylltu militariaeth, gwladychiaeth a rhybuddion yn erbyn difodiant diwylliannol, tra’n mynnu bod celf yn cymryd ei chyfrifoldeb o ddifri, i’r gymuned a’r byd fel ei gilydd.

    Y cyntaf o fersiynau Ivor o ‘Y Tri’ wedi ei seilio ar y ffotograff enwog o D.J.Williams, Saunders Lewis a Lewis Valentine. Yn 1936 fe ildion nhw i’r heddlu a chawsant ddedfryd o garchar ar ôl tanio rhan o ysgol fomio’r RAF a sefydlwyd ar safle hen dy ffarm Penyberth, a oedd wedi ei chwalu gan y llywodraeth; adeilad a oedd ei hun o arwyddocâd hanesyddol i Gymru. (Larger version of this image opens in a popup).
    Wrth dystio i fomio Affghanistan, uchelgais fasnachol militariaeth a’r bygythiad a oedd yn ymrithio cyn troi mewn i ail Ryfel y Gwlff, cofiodd Ivor Davies am y geiriau ‘Ymwrthyd Cymru â rhyfeloedd Lloegr’, a ysgrifennwyd gyntaf oll gan heddychwyr ar furiau Capel Moreia, Llanystumdwy, 1939. Ymhlith symbolau a chyfeiriadau, mae sialciau ar linyn yn gwahodd gwylwyr i lythrennu graffiti eu sylwadau. Un oedd ‘ Segurdod yw clod y cledd, a rhwd yw ei anrhydedd.’ (Larger version of this image opens in a popup).
    Roedd yr ‘ysgrifen ar y mur’ yn Llyfr Daniel yn yr Hen Destament yn rhybudd gan Dduw - ‘Mene, Mene, Tecel, Upharsin - rhannwyd dy frenhiniaeth a’i rhoi i ffwrdd’. Mae hen wn saethu tad-cu Ivor yn ymddangos rhwng Beibl Cymraeg a ddarniwyd, yn agored ar y stori hon; emynau William Williams Pantycelyn a oedd unwaith mor gyfarwydd ar aelwydydd Cymru; ac astudiaeth o hanes celf Cymru, ‘Darganfod Celf Cymru’, a gyd-olygwyd gan Ivor Davies. Caiff yr ‘hen bethau hardd’ hyn (hanes a diwylliant Cymru: y crefyddol, y celfyddydol a’r cartrefol) eu bygwth gan ddistryw a difodiant. Ar eu traws, fodd bynnag, gan wrthbwyso’r gwn, mae’r geiriau ‘Gorau arf: arf dysg’. Nodyn: Dywed Ivor Davies na fyddai heddiw, yn sgil gwaith hanes celf Peter Lord ac eraill yn cyflwyno cryfder a hir draddodiad celf yng Nghymru, yn cynnwys y llyfr hanes celf, yn arwydd o berygl dilead i hanes celf a chof diwylliannol Cymru. (Larger version of this image opens in a popup).

    Delw Danbaid 

  • Gweithiau
    Open a larger version of the following image in a popup: Ivor Davies, Gladioli

    Ivor Davies

    Gladioli
    36cm x 92cm
    £ 5,000.00
    ymholi
    %3Cdiv%20class%3D%22artist%22%3EIvor%20Davies%3C/div%3E%3Cdiv%20class%3D%22title_and_year%22%3E%3Cspan%20class%3D%22title_and_year_title%22%3EGladioli%3C/span%3E%3C/div%3E%3Cdiv%20class%3D%22dimensions%22%3E36cm%20x%2092cm%3C/div%3E
    All proceeds of this sale will go to the Ivor Davies Foundation
    All proceeds of this sale will go to the Ivor Davies Foundation
    Rhannu
    • Facebook
    • X
    • Pinterest
    • Tumblr
    • Email
    Previous
    |
    Nesaf
    5 
    of  5
  • The Ivor Davies Award, Meinir Mathias Pontypridd 2024

    Dawns y Werin, Oil on Linen, 120cm x 90cm, £7000

    The Ivor Davies Award

    Meinir Mathias Pontypridd 2024

    Pan enillodd Ifor Davies Y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Benfro 2002, penderfynodd ddefnyddio’r wobr ariannol er mwyn sefydlu ei wobr ei hun. Er bod yr arian gwreiddiol wedi hen ddod i ben, mae’n parhau i ddyfarnu Gwobr Ifor Davies. Erbyn hyn mae cyhoeddi enw’r enillydd yn un o uchafbwyntiau gweithgareddau’r Lle Celf.

    “Sefydlais y wobr er mwyn ailgylchu’r arian enillais i yn yr un ysbryd â'r lluniau gafodd eu harddangos y flwyddyn honno,” meddai. “Roedd hwn yn ffordd o gyflawni neu hyrwyddo un o'm uchelgeisiau ar gyfer iaith,diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru ym myd y celfyddydau gweledol. “Mae'n bwysig i ni gofio, neu beidio ag anghofio, bod y pethau hyn yn fyw nawr – mae lledu’r posibiliadau o gadw’r cof, yr iaith a’r diwylliant yn fyw yn ein dwylo ni.”

  • Artistiaid AUR

    Artistiaid AUR
    • Daniel Trivedy
      Artists

      Daniel Trivedy

    • Emrys Williams
      Artists

      Emrys Williams

    • Iwan Bala
      Artists

      Iwan Bala

    • Shani Rhys James
      Artists

      Shani Rhys James

    • Sue Williams
      Artists

      Sue Williams

    • Tim Davies
      Artists

      Tim Davies

    • Verity Pulford
      Artists

      Verity Pulford

    • Elfyn Lewis
      Artists

      Elfyn Lewis

    • Eleri Mills
      Artists

      Eleri Mills

    • Gareth Griffith
      Artists

      Gareth Griffith

    • Peter Finnemore
      Artists

      Peter Finnemore

    • Philip Nicol
      Artists

      Philip Nicol

    • Catrin Howell
      Artists

      Catrin Howell

    • Simon Fenoulhet
      Artists

      Simon Fenoulhet

    • Angharad Pearce Jones
      Artists

      Angharad Pearce Jones

    • Rhian Haf
      Artists

      Rhian Haf

    • Seán Vicary
      Artists

      Seán Vicary

    • Suzie Horan
      Artists

      Suzie Horan

    • Carwyn Evans
      Artists

      Carwyn Evans

    • Peter Bodenham
      Artists

      Peter Bodenham

    • Laura Thomas
      Artists

      Laura Thomas

    • Brendan Stuart Burns
      Artists

      Brendan Stuart Burns

    • Ann Catrin Evans
      Artists

      Ann Catrin Evans

    • Richard Bevan
      Artists

      Richard Bevan

    • Julia Griffiths Jones
      Artists

      Julia Griffiths Jones

    • Gareth Hugh Davies
      Artists

      Gareth Hugh Davies

    • Sean Edwards
      Artists

      Sean Edwards

    • John Rowley
      Artists

      John Rowley

    • Bedwyr Williams
      Artists

      Bedwyr Williams

    • Ivor Davies
      Artists

      Ivor Davies

  • Contact Form

    Anfonwch ragor o wybodaeth ataf amIvor Davies

    Please fill in the fields marked with an asterisk
    Derbyn cylchlythyrau *
    anfon ymholiad

    * denotes required fields

    Er mwyn ymateb i'ch ymholiad, byddwn yn prosesu'r data personol a roddwyd gennych yn unol â'n polisi preifatrwydd (ar gael ar gais). Gallwch ddad-danysgrifio neu newid eich dewisiadau ar unrhyw adeg drwy glicio'r ddolen yn ein e-byst.

Polisi Hygyrchedd
Rheoli cwcis
Hawlfraint 2026 Canfas
Site by Artlogic

Oriel Canfas Gallery

Manchester House, Aberteifi SA43 1HY  info@canfas.co.uk   01239 614344

Facebook, opens in a new tab.
Instagram, opens in a new tab.
Ymunwch â'r rhestr bostio
Anfon e-bost
View on Google Maps

This website uses cookies
This site uses cookies to help make it more useful to you. Please contact us to find out more about our Cookie Policy.

Rheoli cwcis
Reject non essential
Accept

Dewisiadau cwcis

Check the boxes for the cookie categories you allow our site to use

Cookie options
Required for the website to function and cannot be disabled.
Improve your experience on the website by storing choices you make about how it should function.
Caniatáu i ni gasglu data defnydd anhysbys er mwyn gwella'r profiad ar ein gwefan.
Caniatáu i ni adnabod ein hymwelwyr er mwyn cynnig marchnata personol wedi'i dargedu.
Save preferences
Close

Ymunwch â'n cylchlythyr

Derbyn gwahoddiadau rhagolwg blaen

Cofrestru

* denotes required fields

We will process the personal data you have supplied in accordance with our privacy policy (available on request). You can unsubscribe or change your preferences at any time by clicking the link in our emails.