Verity Pulford
-
Bywgraffiad
Wrecsam 2025
Medal Aur am Grefft a Dylunio
Artist gwydr o sir Ddinbych yw Verity Pulford, a caiff ei gwaith ei ddylanwadu gan y byd naturiol, yn arbennig y strwythurau cain a’r patrymau tyfiant a welir mewn planhigion a’r byd morol. Caiff ei denu’n arbennig at blanhigion cryptogamig megis cen, mwsogl ac algâu ynghyd â ffwng a gwead a ffurfiau cyfoethog creaduriaid morol, anifeiliaid di-asgwrn-cefn, a chwrel. Mae ymdrwytho ym myd natur a sylwi’n ofalus iawn arno yn ddylanwad allweddol ar Verity. Ysbrydolir ei phroses greadigol gan y dull gofalus yma o syllu, wrth iddi dynnu ar yr hapusrwydd sy’n dod iddi trwy fyd natur, y teimlad o ddiogelwch, solas a rhyfeddod tyner. Mae creu yn golygu amrywiaeth eang o brosesau, yn aml trwy gyfuno technegau gwydr megis castio, pâte de verre, ffurfio mewn odyn, paentio ac ysgythru, yn ogystal â chynnwys deunyddiau naturiol. Yn ddiweddar dechreuodd weithio gyda phorslen, gan gyfuno hwn â’i gwaith gwydr. Mae gwaith Verity yn chwarae gyda syniadau am realaeth hudol wrth greu ffurfiau a ysbrydolwyd gan, neu sy’n cyfuno, gwahanol blanhigion a chreaduriaid.
-
Gweithiau
-
Artistiaid AUR
Artistiaid AUR-
Daniel Trivedy
-
Emrys Williams
-
Iwan Bala
-
Shani Rhys James
-
Sue Williams
-
Tim Davies
-
Verity Pulford
-
Elfyn Lewis
-
Eleri Mills
-
Gareth Griffith
-
Peter Finnemore
-
Philip Nicol
-
Catrin Howell
-
Simon Fenoulhet
-
Angharad Pearce Jones
-
Rhian Haf
-
Seán Vicary
-
Suzie Horan
-
Carwyn Evans
-
Peter Bodenham
-
Laura Thomas
-
Brendan Stuart Burns
-
Ann Catrin Evans
-
Richard Bevan
-
Julia Griffiths Jones
-
Gareth Hugh Davies
-
Sean Edwards
-
John Rowley
-
Bedwyr Williams
-
-
Contact Form
Anfonwch ragor o wybodaeth ataf amVerity Pulford

