Brendan Stuart Burns
-
Bywgraffiad
Brendan yw’r unig artist yn arddangosfa Aur i fod wedi ennill Medal Aur Celfyddyd Gain yr Eisteddfod ddwy waith.
Llanelwedd 1993
Bro Ogwr 1998
Y themâu canolog sy’n sail i ‘ngwaith, yn y presennol a’r gorffennol, yw absenoldeb, unigrwydd, meidroldeb a’r ysbrydol. Cydbwysedd rhwng paent, proses a deunydd pwnc sydd wedi cynnal fy iaith weledol i a’i datblygiad, trwy themâu a oedd yn ymddangos hytrach yn wahanol efallai. Rwy’n ymrafael â chysyniad ‘haecceity’ (sef natur peth), y mewn-wedd, y ‘peth-olrwydd’, yr hanfod a’r ontolegol yn y ffordd dwi’n gweld carreg, pwll-môr neu dyfiant cen. Yr her wedyn yw defnyddio paent a siarcol i gyfathrebu’r profiad hwn i’r gwyliwr ynghyd â gwau i mewn blygiadau fy hunan, fy hunaniaeth a’m hymwybyddiaeth o’r meidrol a’r ysbrydol.
Mae dychwelyd i sir Benfro yn creu’r benbleth gyson ‘I ba draeth af i?’ Dyma’r catalydd i barhau i holi cwestiynau trwy baent. Dyma’r ‘anadl’ y mae fy ngwaith yn cyfeirio ato dro ar ôl tro. ‘Teimlo anadl, y gwynt a gofod. Cael bod yn ddynol yn y gwynt cynoesol, cael blasu’r gwynt, crynu. Cael anadlu cof, meddwl, llonyddwch, amser a myfyrdod.’ Pan dwi’n holi fy hunan unwaith eto beth yw pwynt paentio? Beth mae fy mhaentiadau i’n ei wneud? rwy’n gweld mai’r pwynt yn syml yw creu paentiad ‘sy’n caniatáu i’r meddwl ei hunan i anadlu.’
Ganed Brendan Stuart Burns yn 1963; ar hyn o bryd mae’n byw a gweithio rhwng Caerdydd a Thŷ Ddewi yn sir Benfro. Astudiodd Gelfyddyd Gain yng Ngholeg Celf Caerdydd (1981-1985) ac yna ymlaen i Ysgol Gelf y Slade, Coleg Prifysgol Llundain (1985-1987) ar gyfer astudio ôl-radd. Enillodd fedal Aur Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 1993 a 1998, ac Artist y Flwyddyn Cymru yn 2000 a 2003.
Mae Burns wedi arddangos yn genedlaethol a rhyngwladol. Mae ei waith i’w weld mewn sawl casgliad preifat a chyhoeddus. Cynrychiolir Burns gan Galeri Caldwell Snyder, Califfornia, Galeri Osborne Samuel, Llundain a Galeri Artis, Seland Newydd.
-
Gweithiau
-
Artistiaid AUR
Artistiaid AUR-
Daniel Trivedy
-
Emrys Williams
-
Iwan Bala
-
Shani Rhys James
-
Sue Williams
-
Tim Davies
-
Elfyn Lewis
-
Eleri Mills
-
Gareth Griffith
-
Peter Finnemore
-
Philip Nicol
-
Simon Fenoulhet
-
Angharad Pearce Jones
-
Seán Vicary
-
Carwyn Evans
-
Rhian Haf
-
Peter Bodenham
-
Catrin Howell
-
Laura Thomas
-
Suzie Horan
-
Ann Catrin Evans
-
Verity Pulford
-
Julia Griffiths Jones
-
Brendan Stuart Burns
-
Richard Bevan
-
Gareth Hugh Davies
-
Sean Edwards
-
John Rowley
-
Bedwyr Williams
-
-
Contact Form
Anfonwch ragor o wybodaeth ataf amBrendan Stuart Burns

