• Bywgraffiad

    Y Fenni 2016

    Medal Aur Celfyddyd Gain

    Ganed yn 1980, Maesteg. Yn Llundain ar hyn o bryd.
    Derbyniodd Richard radd BA mewn Celfyddyd Gain o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd (2002) ac MA  mewn Cyfryngau Celfyddyd Gain o Ysgol Gelf Slade, Llundain (2008), Yna, bu’n Artist Cyswllt yn LUX, Llundain 2012-13.

    Yn 2003, enillodd Ysgoloriaeth Artist Ifanc Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a’r Gororau ac yn 2016 enillodd y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau. Yn 2024 derbyniodd Wobr Datblygu Eich Ymarfer Creadigol gan Gyngor Celfyddydau Lloegr am gyfres o naw darn animé.
    Yn ddiweddar dangosodd ei waith mewn sioeau unigol gyda Hidde Van Seggelen, Hamburg (2023) a sioe unigol fel Setsuko, Little Vehicle Projects, Nagoya (2024). Dangosodd mewn sioe grwp yn Arddangosfa Haf yr Academi Frenhinol (2026), TEFAF, Maastricht (2025), Ffair Lyfrau Celf Efrog Newydd (Artist Dan Sylw gyda Deunydd Printiedig), Efrog Newydd (2024), Ffair Lyfrau Celf Amsterdam Tokyo  (2021), ASP, ICA, Llundain (2020), Little Vehicle, Super Gallery, Nagoya (2020), The Gallery In The Expanded Field, blip blip blip, Moscow (2020), Sioe unigol, Cairn Gallery, Pittenweem (2019), Maquettes, The Block, Llundain (2018), A Portrait of Beth Harmon for a Screen Play, Tender Books, Llundain (2018), MULTIPLEXING, LUX, Cineworld, Glasgow (2018).

  • Y Fenni 2016

    Mae ffurfiau gweddol anghonfensiynol i’r ffilmiau a enillodd y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn Eisteddfod 2016. Mae nhw mor hir â dwy awr o gylch dangos o fewn sinema, neu mor fyr a 13 eiliad fel yr unig waith mewn dangosiad mewn oriel. Mae gan bob ffilm fan cychwyn gwahanol ond mae nhw’n rhannu rhai nodweddion penodol. Mae yna densiwn rhwng y ddelwedd llonydd a’r un symudol; mae’r ffilmiau bron yn agosach at ffotograffau nac i ffilmiau o hyd traddodiadol. Nid oes trac sain wedi ei recordio ond mae sŵn mecanyddol y taflunydd yn y cefndir ac unrhyw seiniau eraill sydd i’w clywed o fewn y gofodau lle cant eu gweld.

  • Rhestr o’i ffilmiau a ddangoswyd:
    rf#
    2 funud 45 eiliad
    Ffilm 16mm
    2012

    Chess Club
    Ffilm 16mm / 35mm
    Ar gylch
    2013
     
     Z LP DR BK PL PF ST NN
    Ffilmiau dwbwl 16mm 
    2 funud 45 eiliad
    2014
     
    RW2 (and a long piece of black leader)
    Ffilm 16mm 
    2 funud 45 eiliad
    2015
     
    Rwy’n golygu ‘yn y dirgel’, yn saethu ar un tro fel arfer, gan gysylltu yr amser pan wnaed y ffilm â’r amser pan dangosir hi. Mae nhw’n cyflwyno darn o amser a ddisodlwyd. Mae ble a sut y cant eu dangos yn bwysig, nid ar-lein nac ar riliau ffilm, ond fel ‘gwrthrychau’ mewn orielau neu fel gosodiad ar gylch mewn sinemâu. Gellid gweld y ffilmiau fel ail-lwyfaniadau o ddelweddau dwi wedi eu creu neu eu ‘darganfod’. Darlun o blentyn yn chwarae gwyddbwyll, osgo esboniadol ffisegwr wrth iddo draddodi darlith, animeiddiwr yn gweithio ar fodel. Mae iaith yn bwysig. Mae teitlau’r ffilm yn gweithio heb synnwyr dilyniant, a lle bo’n bosib nid oes geiriau yn y ffilmiau i bontio rhwng y gwyliwr a’r ffilm, megis datganiadau neu draethodau esboniadol. Mae’r amwysedd sy’n deillio o absenoldeb geiriau yn gynhyrchiol. Mae’r gweithiau yn dibynnu ar ddelweddau er mwyn cyfathrebu. Mae ffilm o ddwylo yn gwneud symudiadau cynnil, neu lygaid merch wrth iddi gynllunio ei symudiad gwyddbwyll nesaf yn cyflwyno prosesau meddwl i’w cyd-gyfnewid gyda’r gwyliwr gobeithio.

  • Gweithiau
  • Artistiaid AUR

    Artistiaid AUR
  • Contact Form

    Anfonwch ragor o wybodaeth ataf amRichard Bevan

    Please fill in the fields marked with an asterisk
    Derbyn cylchlythyrau *

    * denotes required fields

    Er mwyn ymateb i'ch ymholiad, byddwn yn prosesu'r data personol a roddwyd gennych yn unol â'n polisi preifatrwydd (ar gael ar gais). Gallwch ddad-danysgrifio neu newid eich dewisiadau ar unrhyw adeg drwy glicio'r ddolen yn ein e-byst.