Tim Davies
-
Bywgraffiad
Meifod 2003
Medal Aur Celfyddyd Gain
Ganed Tim Davies yn Hwlffordd ac fe’i magwyd yn Johnston, sir Benfro. Astudiodd Gelfyddyd Gain yn Ysgol Gelf Norwich a chyflawni MA ym Mhrifysgol y Celfyddydau Creadigol, Caergaint. Dychwelodd i Gymru yn 1994 a nawr mae’n byw a gweithio yn Abertawe. Am dros dri deg o flynyddoedd mae Davies wedi gweithio mewn ystod o gyfryngau, gan arddangos yn helaeth yng Nghymru, Prydain a thu hwnt.
Ymhlith ei wobrau mae Gwobr Agored Mostyn, Medal Aur Celfyddyd Gain yr Eisteddfod Genedlaethol, a Gwobr Wakelin. Fe oedd yr artist Ewropeaidd cyntaf i’w roi ar restr fer Gwobr Celfyddyd Weledol Artes Mundi ac fe gynrychiolodd Cymru mewn sioe unigol yn Fenis yn y Biennale yn 2011. Mae ei waith i’w gael mewn sawl casgliad preifat a chyhoeddus, gan gynnwys y Cyngor Prydeinig, Casgliad Cyngor Celfyddydau yn Oriel Hayward, Llundain, y Glynn Vivian yn Abertawe, Amgueddfa Harris, Preston ac Amgueddfa Cymru/Museum Wales, Caerdydd. Mae dau fonograff, sef ‘Process’ a gyhoeddwyd gan Seren, a ‘Tim Davies’ a gyhoeddwyd gan Ridinghouse, yn canolbwyntio ar ei ymarfer tra bod ei waith wedi ymddangos mewn sawl catalog sioe grŵp ac arddangosfa unigol ac astudiaethau o gelf weledol dros y blynyddoedd, yn arbennig felly Certain Welsh Artists gan Iwan Bala, un arall o gyhoeddiadau Seren.
Mae gwaith Davies yn mynd i’r afael â chyd-destunau cymdeithasol-wleidyddol a diwylliannol cyfoes, gan ddefnyddio cyfryngau 2D a 3D a pherfformiol. Mae llawer o’i waith yn galw am weithrediadau manwl-gywir, ail-adroddus sy’n cymryd llawer o amser. Ei ymarfer diweddar yw archwilio’r gair ysgrifenedig, llafar a gweledol. Ceir un o’i ddarnau ysgrifenedig sydd wedi ei berfformio droeon yn antholeg 2006 ‘Peaceweavers’, a olygwyd gan Rebecca Lowe a’i chyhoeddi gan Culture Matters
-
Gweithiau
-
Artistiaid AUR
Artistiaid AUR-
Daniel Trivedy
-
Emrys Williams
-
Iwan Bala
-
Shani Rhys James
-
Sue Williams
-
Tim Davies
-
Elfyn Lewis
-
Eleri Mills
-
Gareth Griffith
-
Peter Finnemore
-
Philip Nicol
-
Simon Fenoulhet
-
Angharad Pearce Jones
-
Seán Vicary
-
Carwyn Evans
-
Rhian Haf
-
Peter Bodenham
-
Catrin Howell
-
Laura Thomas
-
Suzie Horan
-
Ann Catrin Evans
-
Verity Pulford
-
Julia Griffiths Jones
-
Brendan Stuart Burns
-
Richard Bevan
-
Gareth Hugh Davies
-
Sean Edwards
-
John Rowley
-
Bedwyr Williams
-
-
Contact Form
Anfonwch ragor o wybodaeth ataf amTim Davies

