Sue Williams
-
Bywgraffiad
Llanelli 2000
Medal Aur Celfyddyd Gain
Mae Sue Williams yn artist rhyngwladol amlwg sydd â’i chartref yng Nghymru, ac mae ei chorff o waith yn rhychwantu arddangosfeydd unigol a sioeau grŵp ar draws pum cyfandir. Mae ei hymarfer aml-ddisgyblaethol pwerus yn chwarae rhwng y ffisegol a’r rhithwir, y preifat a’r cyhoeddus – gan dynnu’r gwyliwr i fyd gwleidyddiaeth bryfoclyd rhyw ac emosiwn sy’n datgelu ton newydd o ddiffyg cyfartaledd, anweledigrwydd a hualau. Mae ei hymarfer awto-ethnograffig wrth luniadu ac ysgrifennu yn rhoi mynegiant i gymhlethdodau perthynas-oedd pobol o fewn y cyd-destun diwylliannol cyfoes, gan gyfleu naws fregus sy’n ennyn ymateb teimladwy cryf.
Lluniadu sydd wrth wraidd gwaith Williams ac o’r ddisgyblaeth hon y daw gwaith gosodiad, paentio, ffilm, sain a gweithio ar y cyd. Ers 2009 mae wedi gweithio gyda coreograffwyr, cyfansoddwyr, beirdd a cherddorion, gan ymestyn ei hymarfer ar draws disgyblaethau i mewn i gyd-destunau byw. Mae ei gwaith wedi bod yn allweddol i ddigwyddiadau lluniadu mawr yn Amgueddfa Cymru ac yn Zimbabwe, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a CARTOON. Mae hi wedi ymroi i ddatblygu rhwydweithiau creadigol a strategaethau deinamig sy’n cynnal ymarfer celfyddydol cyfoes ac yn adeiladu cymunedau diwylliannol cynhyrchiol.
Ganed hi yn Redruth, Cernyw a graddiodd o Goleg Celf Caerdydd yn y 1970au ac mae wedi cynnal ei hymarfer fel artist ac academydd ers hynny. Mae hi’n Athro ac yn Gyfarwyddwr Cwrs Celfyddyd Gain yn PCDDS Abertawe.
Mae Williams wedi ennill Medal Aur yn yr Eisteddfod Genedlaethol (Dinbych 2001) a hi oedd yr unig artist Prydeinig i’w dewis ar gyfer Gwobr Artes Mundi (2006) gan Deepak Ananth, hanesydd celf, beirniad a churadur annibynnol o Baris ac Ivo Mesquita, curadur, beirniad ac ysgrifennwr celf, Sao Paulo. Dangoswyd ei gwaith yn Biennale Avesta, Sweden a Site-ations, Efrog Newydd ac mae ei gwaith mewn casgliadau gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru a’r Gymdeithas Celfyddyd Gyfoes.
-
Gweithiau
-
Artistiaid AUR
Artistiaid AUR-
Daniel Trivedy
-
Emrys Williams
-
Iwan Bala
-
Shani Rhys James
-
Sue Williams
-
Tim Davies
-
Elfyn Lewis
-
Eleri Mills
-
Gareth Griffith
-
Peter Finnemore
-
Philip Nicol
-
Simon Fenoulhet
-
Angharad Pearce Jones
-
Seán Vicary
-
Carwyn Evans
-
Rhian Haf
-
Peter Bodenham
-
Catrin Howell
-
Laura Thomas
-
Suzie Horan
-
Ann Catrin Evans
-
Verity Pulford
-
Julia Griffiths Jones
-
Brendan Stuart Burns
-
Richard Bevan
-
Gareth Hugh Davies
-
Sean Edwards
-
John Rowley
-
Bedwyr Williams
-
-
Contact Form
Anfonwch ragor o wybodaeth ataf amSue Williams

