Shani Rhys James
-
Bywgraffiad
Aberystwyth 1992
Medal Aur Celfyddyd Gain
Ganed Shani Rhys James ym Melbourne, Awstralia yn 1953 a hyfforddodd yn Ysgol Gelf Loughborough ac Ysgol Gelf St Martins, gan raddio gyda BA (Anrh) mewn Paentio yn 1976. Ers symud i ganolbarth Cymru yn 1984 mae hi wedi datblygu corff o waith hynod ei amrediad – o baentiadau ffigurol mawr eu maint i awtomata cerfluniol, gosodiadau sain a fideo.
Ymhlith y gwobrwyon a ddaeth i’w rhan mae Gwobr Agored Aberystwyth, Gwobr Agored Mostyn, Medal Aur yr Eisteddfod Genedlaethol, Gwobr Gelf Hunting Observer, Gwobr Portread Cenedlaethol BP, Artist Gweledol y Flwyddyn BBC Cymru (1994), Gwobr Baentio Jerwood (2003) a dwy Wobr Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru (2006 a 2013). Derbyniodd MBE am ei gwasanaeth i gelfyddyd Cymru yn 2006 a Chymrodoriaeth Anrhydeddus Prifysgol Wrecsam Glyndŵr yn 2017. Yn 2015 roedd hi’n artist preswyl ym Mhrifysgol Columbia, Efrog Newydd.
Cyhoeddwyd dau fonograff am ei gwaith. Mae’n dal ati i arddangos gwaith – yn fwyaf diweddar yn States of Mind yn Connaught Brown yn Llundain (2024) – ac mae’n gweithio o’i stiwdios yng Nghymru a Ffrainc. Mae ei gwaith mewn casgliadau cyhoeddus o bwys ar draws y DU, gan gynnwys yn Amgueddfa Cymru ac Oriel Celfyddyd Gyfoes Glasgow.
-
Gweithiau
Artistiaid AUR
Artistiaid AUR-
Daniel Trivedy
-
Emrys Williams
-
Iwan Bala
-
Shani Rhys James
-
Sue Williams
-
Tim Davies
-
Elfyn Lewis
-
Eleri Mills
-
Gareth Griffith
-
Peter Finnemore
-
Philip Nicol
-
Simon Fenoulhet
-
Angharad Pearce Jones
-
Seán Vicary
-
Carwyn Evans
-
Rhian Haf
-
Peter Bodenham
-
Catrin Howell
-
Laura Thomas
-
Suzie Horan
-
Ann Catrin Evans
-
Verity Pulford
-
Julia Griffiths Jones
-
Brendan Stuart Burns
-
Richard Bevan
-
Gareth Hugh Davies
-
Sean Edwards
-
John Rowley
-
Bedwyr Williams
Contact FormAnfonwch ragor o wybodaeth ataf amShani Rhys James

