Seán Vicary
-
Bywgraffiad
Tregaron 2022
Medal Aur Celfyddyd Gain
Mae Seán yn gweithio ym meysydd delwedd symudol, animeiddio a chyfryngau digidol.
Trwy ei ymarfer mae’n edrych ar y syniadau sydd wrth galon ein perthynas â’r byd naturiol, lle a thirwedd (yn fewnol ac allanol), ac yn ymchwilio i’r cysylltiadau rhwng y goddrychol, y gwyddonol ac agweddau hanesyddol, yn enwedig rhai sydd ynghudd neu’n lled-weladwy.
Mae ymchwil ymarferol yn ganolog i’w broses greadigol ac ym aml fe fydd yn gweithio gyda ffynonellau cynradd er mwyn sefydlu ei ddealltwriaeth ac i ddylanwadu ar ei ymchwil i’r mythos cyfoes. Yn ogystal, elfen ganolog o’i waith yw’r broses hybrid o greu yn haptig a digidol. Mae’r trin o fewn ffiniau amser sy’n rhan annatod o animeiddio stop-symud yn ffordd i edrych ar effeithiau deunyddiau, a’n hymwneud cymhleth ni â’r hyn sy’n fwy na phrosesau ac amserlenni dynol.
Bydd Seán yn aml yn gweithio gyda sensitifrwydd o fewn lleoliad; casglu gwrthrychau y mae’n eu canfod a darnau o wastraff, yna trin yr elfennau hyn o fewn gofod rhithwir i greu assemblages wedi eu hanimeiddio. Mae rhain yn gweithredu fel sbardun i’r gwyliwr, weithiau’n awgrymu stori ehangach neu brosesau cudd sy’n llechu tu ôl i’r hyn sy’n weladwy.
Mae Seán wedi arddangos yn rheolaidd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, gan ennill y wobr Grefft yn 2011, Gwobr Ifor Davies yn 2016 a’r Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn 2022.
-
Tregaron 2022
Sitelines2022 Medal Aur am Gelfyddyd Gain
Fideo ac Animeiddiad DU, 10 mun 25 eiliad
Cynhyrchiad o 5 (4 ar gael)
Ymateb yw ‘Sitelines’ i nofel gwlt Alan Garner, ‘The Owl Service’. Dechreuodd yn wreiddiol fel elfen o brosiect mapio dwfn cydweithredol, ond dros amser tyfodd y prosiect i fod mor adfyfyriol nes yn rhyfedd iawn llusgwyd yr artist i mewn i’r llyfr.
“Tyfais i fyny gyda nofelau cynnar Garner. Gan edrych nôl, galla’ i weld sut oedden nhw’n awgrymu fframwaith ar gyfer mapio ffiniau fy mhlentyndod fy hun; ffosydd a chaeau a chloddiau. Ond roedd yr ‘Owl Service’ yn rhywbeth arall. Ro’n i braidd yn rhy ifanc ar gyfer y llyfr, felly trwy’r addasiad teledu yn y 1970au y ces i ‘nghyflwyno iddo. Dwi ddim yn siwr a ddes i drosto yn iawn erioed.”
Mae Seán Vicary yn archwilio syniad y nofel am y dyffryn fel ‘cronfa’ wefru ar gyfer pwerau anweledig, ond hefyd fel y cymhelliant ar gyfer proses greadigol Garner (ac felly ei broses ei hun hefyd); y trochiad personol mewn tirwedd neu le sy’n ffurfio sianel a’r weithred o greu yn sianelu y grym hwnnw.
“Treuliais ddwy flynedd yn ymchwilio a gweithio ar leoliad yn y dyffryn. Rwy’ wedi casglu, ffotograffio ac animeiddio gwrthrychau, gan gynnwys blew ceffyl a phlastar calch, hoelion o waith llaw a photel swynwraig. Mae eu lleoliad gwreiddiol yn atseinio drwy’r gwrthrychau hyn a daeth y broses animeiddio haptig stop-symud yn rhyw fath o alwad ddefodol ar ddewiniaeth sympathetig, gan greu ‘derbynydd’ i diwnio i mewn i’r tonfeddi oedd yno o hyd, a dad-gôdio unrhyw drosglwyddiadau arallfydol.”
Enillodd ‘Sitelines’ y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn Nhregaron yn 2022
-
Gweithiau
Seán Vicary
Sitelines,2022 Gold Medal for Fine Art
HD Video & Animation, 10 mins 25 secs
Edition of 5 (4 available)
Hawlfraint Yr ArtistFfilm gan Seán Vicary, wedi ei gwreiddio mewn dwy flynedd o ymchwil ar leoliad yn y dyffryn yng Nghymru a ysbrydolodd The Owl Service gan Alan Garner.
Ffilm gan Seán Vicary, wedi ei gwreiddio mewn dwy flynedd o ymchwil ar leoliad yn y dyffryn yng Nghymru a ysbrydolodd The Owl Service gan Alan Garner.
Artistiaid AUR
Artistiaid AUR-
Daniel Trivedy
-
Emrys Williams
-
Iwan Bala
-
Shani Rhys James
-
Sue Williams
-
Tim Davies
-
Elfyn Lewis
-
Eleri Mills
-
Gareth Griffith
-
Peter Finnemore
-
Philip Nicol
-
Simon Fenoulhet
-
Angharad Pearce Jones
-
Seán Vicary
-
Carwyn Evans
-
Rhian Haf
-
Peter Bodenham
-
Catrin Howell
-
Laura Thomas
-
Suzie Horan
-
Ann Catrin Evans
-
Verity Pulford
-
Julia Griffiths Jones
-
Brendan Stuart Burns
-
Richard Bevan
-
Gareth Hugh Davies
-
Sean Edwards
-
John Rowley
-
Bedwyr Williams
Contact FormAnfonwch ragor o wybodaeth ataf amSeán Vicary

