Gareth Griffith
-
Bywgraffiad
Wrecsam 2025
Medal Aur Celfyddyd Gain
Ganed Gareth Griffith ym Mangor yn 1940 ac fe’i magwyd yng Nghaernarfon. Gadawodd ysgol yn 16 oed ac ymunodd â chadéts yr heddlu yn Lerpwl yn 1957, cyn mynd i Goleg Celf Lerpwl yn 1960. Wedi rhyw dri deg o flynyddoedd yn athro – yn cynnwys cytundeb dwy flynedd yn Kingston, Jamaica, gan gynnal ei ymarfer ar hyd y cyfnod – fe ymddeolodd yn gynnar ac adeiladu stiwdio newydd yn ei gartref ym Mynydd Llandygai, ger Bangor, lle bu’n byw ers dros ddeugain mlynedd.
Gan weithio ym maes paentio, cerflunio a gosodiadau, mae ei ymarfer yn llifo’n rhwydd rhwng 2D a 3D. Teithiodd ei arddangosfa deithiol unigol Trelar /Trailer, a guradwyd gan Oriel Davies, i Ganolfan Gelfyddydau Aberystwyth, Tŷ Pawb ac Oriel Myrddin, gan gynnig profiad trochol o’i waith diweddar. Mae ei waith yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru, y Walker Art Gallery a Chasgliad y Cyngor Celfyddydau. Roedd yn gyd-enillydd Gwobr Baentio Eilflwydd BEEP 2022 ac, yn 2025, derbyniodd Fedal Aur Celfyddyd Gain Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
Mae gan Gareth arddangosfa bwysig i ddod yn Oriel Plas Glyn y Weddw ym mis Mai 2027.
-
Gweithiau
-
Artistiaid AUR
Artistiaid AUR-
Daniel Trivedy
-
Emrys Williams
-
Iwan Bala
-
Shani Rhys James
-
Sue Williams
-
Tim Davies
-
Elfyn Lewis
-
Eleri Mills
-
Gareth Griffith
-
Peter Finnemore
-
Philip Nicol
-
Simon Fenoulhet
-
Angharad Pearce Jones
-
Seán Vicary
-
Carwyn Evans
-
Rhian Haf
-
Peter Bodenham
-
Catrin Howell
-
Laura Thomas
-
Suzie Horan
-
Ann Catrin Evans
-
Verity Pulford
-
Julia Griffiths Jones
-
Brendan Stuart Burns
-
Richard Bevan
-
Gareth Hugh Davies
-
Sean Edwards
-
John Rowley
-
Bedwyr Williams
-
-
Contact Form
Anfonwch ragor o wybodaeth ataf amGareth Griffith

