Elfyn Lewis
-
Bywgraffiad
Bala 2009
Medal Aur Celfyddyd Gain
Ganed Elfyn Lewis ym Mhorthmadog, ac mae bellach yn byw a gweithio yng Nghaerdydd. Yn ystod 25 mlynedd ei yrfa enillodd nifer o wobrwyon, gan gynnwys y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2009 ac Artist Cymraeg y Flwyddyn yn 2010. Mae hefyd yn aelod o Academi Frenhinol Cambrian, Conwy. Mae ei waith mewn sawl casgliad preifat a chyhoeddus.
Mae Elfyn yn adeiladu ei baentiadau mewn sawl haen gan wthio paent o gwmpas, yna ei grafu nôl a chaniatáu iddo ffeindio ei rhythm a’i gyfeiriad ei hun. Mae’r broses bob amser yn dechnegol feiddgar – holi cyson, gwthio ffiniau – ac mae’n rhoi cyffro prin ac ynni i’r gwaith. Wrth i’r haenau gynyddu bron eu bod yn gorchuddio ei gilydd, ond mae olion yn casglu ar yr ymylon; mae yna bob amser rhyw weddill bach o’r hyn a fu, a’r hyn sy’n llechu oddi tano.
Mae cariad at le yn edefyn clir drwy’r gwaith hefyd – er mai haniaethol yn bennaf yw’r gwaith mae’r paentiadau yn awgrymu rhyw atgof a chilolwg ar dirwedd. Maen nhw’n llawn awyrgylch yr elfennau: cysgod a goleuni, gwynt, glaw a thrydan. Ond mae awyrgylch seicolegol yma hefyd – o fewn yr un ddelwedd gall y naws dywyllu neu glirio; mae emosiynau gwrthgyferbyniol yn cyd-fyw ac mae’r presennol yn gorwedd ar ben y gorffennol, heb ei lwyr ddileu.
Mae gan Elfyn arddangosfa i ddod yn TEN Caerdydd ym mis Medi, o 11 Medi hyd at 17 Hydref 2026.

-
Gweithiau
-
Artistiaid AUR
Artistiaid AUR-
Daniel Trivedy
-
Emrys Williams
-
Iwan Bala
-
Shani Rhys James
-
Sue Williams
-
Tim Davies
-
Elfyn Lewis
-
Eleri Mills
-
Gareth Griffith
-
Peter Finnemore
-
Philip Nicol
-
Simon Fenoulhet
-
Angharad Pearce Jones
-
Seán Vicary
-
Carwyn Evans
-
Rhian Haf
-
Peter Bodenham
-
Catrin Howell
-
Laura Thomas
-
Suzie Horan
-
Ann Catrin Evans
-
Verity Pulford
-
Julia Griffiths Jones
-
Brendan Stuart Burns
-
Richard Bevan
-
Gareth Hugh Davies
-
Sean Edwards
-
John Rowley
-
Bedwyr Williams
-
-
Contact Form
Anfonwch ragor o wybodaeth ataf amElfyn Lewis

