• Bywgraffiad

    Pontypridd 2024

    Medal Aur Celfyddyd Gain

    Yn wreiddiol o’r Bala, graddiodd Angharad Pearce Jones o gwrs BA (Anrh) mewn  3D Dylunio a Chrefft o Brifysgol Brighton yn 1991 a chwblhau MA mewn Celfyddyd Gain yn Ysgol Gelf Caerdydd yn 1999. Mae’n cefnogi ei hymarfer gan gweithio fel gof masnachol a gwneuthurwr dur. 

    Yn ei gyrfa gynnar, roedd gwahaniaeth clir rhwng ei gwaith celf a gwaith masnachol ond dros y blynyddoedd maent wedi dod yn gyd-ddibynnol. Mae hi'n sylweddoli'r potensial cerfluniol ym mhopeth sydd wedi'i wneud o ddur - o ffensys amaethyddol, gatiau tro stadiwm chwaraeon, pramiau, a pholion sgaffald, i'r llwch sy'n cuddio ar ei thorrwr disg. Mae ganddi un droed ym mywyd beunyddiol cyffredin o fod yn fam i 3 o blant tra'n ymroi i ormod o deledu realiti ac un arall mewn diwydiant trwm a chelfyddyd uchel, gan arwain at gyfuniad hynod ddiddorol sydd wedi arwain at waith sy'n ysgogi'r meddwl.

     
  • Pontypridd 2024

    Ar ba ochr wyt ti?

    Datblygwyd y gwaith mewn ymateb i ganfyddiad Angharad fod rhaniadau cymdeithasol wedi cynyddu yn dilyn refferendwm Brexit yn 2016.

    Adeiladwyd y darn yn wreiddiol yn ei chartref yn ystod y cyfnod clo gan hollti drwy fwrdd y gegin a’r ystafell fwyta gyda ffens balisâd. Daeth pandemig Covid-19 ag ystyr newydd i’r darn, ond dywed Angharad ei fod yn awgrymu unrhyw raniad neu ffin, a’i fod yn codi cymaint o gwestiynau am natur ac effaith dewisiadau personol a gwleidyddol.

  • Gweithiau
    • Angharad Pearce Jones, ARDRAWID RHIF 1: Maes Parcio Lidl, Pollenca, Mallorca
      ARDRAWID RHIF 1: Maes Parcio Lidl, Pollenca, Mallorca
  • AUR Artists

  • Contact Form

    Anfonwch ragor o wybodaeth ataf amAngharad Pearce Jones

    Please fill in the fields marked with an asterisk
    Derbyn cylchlythyrau *

    * denotes required fields

    Er mwyn ymateb i'ch ymholiad, byddwn yn prosesu'r data personol a roddwyd gennych yn unol â'n polisi preifatrwydd (ar gael ar gais). Gallwch ddad-danysgrifio neu newid eich dewisiadau ar unrhyw adeg drwy glicio'r ddolen yn ein e-byst.