Meinir Mathias
-
Bywgraffiad
“Yn aml fe fydda’ i’n tynnu ar ddigwyddiadau diwylliannol a delweddau gwerinol ac ail-ddychmygu rhain yn gyfansoddiadau ffigurol i herio a chwestiynu ein perthynas gyda’r tir a’i hanes.”
Un o arlunwyr mwyaf cyffrous Cymru yw Meinir a astudiodd am BA a MA mewn Celfyddyd Gain ac addysgu hefyd yn Ysgol Gelf Caerfyrddin. Gwreiddiwyd ei gwaith yn ddwfn yn niwylliant Cymru ac yn aml fe fydd yn tynnu ar ddigwyddiadau hanesyddol a delweddau gwerinol sy’n herio’r berthynas ddynol gymhleth gyda’r tir a’i hanes. Mae Meinir yn portreadu’n egnïol gymeriadau llawn gwrthryfel ac annibyniaeth sy’n cael eu hail-ddychmygu gyda golwg gyfoes wrth iddi gyfeirio’n feistrolgar trwy ei gwaith i gyd at hunaniaeth Gymreig a dylanwadau diwylliannol. Mae ei gwaith yn gyforiog o symboliaeth o draddodiadau gwerin Cymru, sy’n denu’r llygad. Ceir llawer o’i phaentiadau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn ddiweddar fe enillodd Wobr y Bobl yn Academi Frenhinol Celfyddyd Gain.
-
Gweithiau
Meinir Mathias
Cario’r Cof,Oil on Birch wood panel41cm x 51cmHawlfraint Yr ArtistYn Cario’r Cof, mae’r ffigwr yn cario hanes ar ei gefn. Mae’r siôl frodwaith yn plethu cyfeiriadau symbolaidd at Derfysg Beca gyntaf yn Efailwen ym 1839, ochr yn ochr â...Yn Cario’r Cof, mae’r ffigwr yn cario hanes ar ei gefn. Mae’r siôl frodwaith yn plethu cyfeiriadau symbolaidd at Derfysg Beca gyntaf yn Efailwen ym 1839, ochr yn ochr â thirwedd y Preseli, y tollborth a golygfeydd o fywyd gwledig. Mae’r paentiad yn dwyn ynghyd le, cof a symbolaeth i anrhydeddu’r cymunedau y daeth eu gweithredoedd o wrthwynebiad yn rhan o etifeddiaeth ddiwylliannol Cymru. In Cario’r Cof, the figure carries history on his back. The embroidered shawl is woven with symbolic references to the first Rebecca Riot at Efailwen in 1839, alongside the Preseli landscape, the tollgate and scenes of rural life. The painting draws together place, memory and symbolism to honour the communities whose acts of resistance became part of Wales’s cultural inheritance.Artistiaid AUR
Artistiaid AUR-
Daniel Trivedy
-
Emrys Williams
-
Iwan Bala
-
Shani Rhys James
-
Sue Williams
-
Tim Davies
-
Verity Pulford
-
Elfyn Lewis
-
Eleri Mills
-
Gareth Griffith
-
Peter Finnemore
-
Philip Nicol
-
Catrin Howell
-
Simon Fenoulhet
-
Angharad Pearce Jones
-
Rhian Haf
-
Seán Vicary
-
Suzie Horan
-
Carwyn Evans
-
Peter Bodenham
-
Laura Thomas
-
Brendan Stuart Burns
-
Ann Catrin Evans
-
Richard Bevan
-
Julia Griffiths Jones
-
Gareth Hugh Davies
-
Sean Edwards
-
John Rowley
-
Bedwyr Williams
-
Ivor Davies
Contact FormAnfonwch ragor o wybodaeth ataf amMeinir Mathias

