Ceri H. Pritchard
“Rwy’n chwilio am ffyrdd i fynegi profiad enigmatig, diflanedig bywyd cyfoes ac yn fwyaf arbennig synhwyrau gwrthgyferbyniol hiwmor a gofid, rhesymeg ac abswrdiaeth neu drefn ac anhrefn."
Arlunydd Cymreig yw Ceri a’i waith yn archwilio syniadau sy’n deillio o’r ymwybod a’r anymwybod. Gan dynnu ar fydoedd a grëwyd yn naturiol ac o law dyn fel ei gilydd, mae’n adeiladu iaith weledol arbenigryw, gan gyfosod y cyffredin a’r anghyffredin a chreu gwyriadau swreal o’r byd sy’n gyfarwydd i ni. Mae Ceri yn fab i’r artistiaid arobryn Gwilym Prichard a Claudia Williams, ac astudiodd yn Ysgol Gelf Lerpwl cyn symud ymlaen i Ysgol Gelf St.Martins yn Llundain. Mae wedi teithio’n eang, gan fyw a gweithio yn Efrog Newydd, Berlin, Paris a Mexico a phob gwlad yn ei thro yn cynnig gwledd o ddylanwadau gwahanol. Yn ogystal â phaentio, mae Ceri yn gweithio gyda sain, fideo a cherfluniaeth, gan ehangu ei archwiliad o ddelwedd a ffurf ar draws sawl cyfrwng. Mae wedi arddangos yn eang yn ei famwlad ac yn rhyngwladol, gan adeiladu enw iddo ei hun am ei waith mentrus, seicolegol bwerus.
-
A Matter of Fact I -
A State of Mind -
All at Sea I -
All at Sea II -
An Evening In -
Anthropomorphic Afternoon -
Chesterfield -
Communication Breakdown -
Conspiracy -
Convergence I -
Convergence II -
Convergence III -
Convergence IV -
Escape -
Fall Out -
Latis Excelsior -
Llyf -
More Awful Things -
Purple Haze -
Systems of Belief -
The State of Things -
Trouble Down the Road I -
Trouble Down the Road II -
Trouble Down the Road III -
Trouble Down the Road IV -
Uncertain Times I -
Uncertain Times II -
Uncertain Times III -
Uncertain Times IV -
Wiggle

