Patricia McParlin: Flux: The Shift of Seasons
Mae'r gwaith diweddaraf hwn yn ymwneud â'r mannau trothwyol rhwng y tymhorau -- y newidiadau cynnil sy'n arwyddo newid: yr arogl yn yr awyr wrth i'r Hydref gyrraedd, y lili wen fach gyntaf a'r sylweddoliad araf y gallai'r Gwanwyn fod wedi dechrau...
Gallwn olrhain fy niddordeb yn y mannau newidiol hyn yn ôl i lyfr plentyndod. Ar yr wynebddalen flaen roedd golygfa o fyd natur yn yr Haf; ar y cefn, yr un olygfa yn y Gaeaf. Byddwn i'n eistedd, yn troi'n ddiddiwedd rhwng y ddwy ddelwedd, gan gymharu'r newidiadau yn y dirwedd. Roedd rhai'n fân, bron yn anweladwy, tra bod eraill yn aruthrol. Roeddwn i wedi fy nghyfareddu gan yr hyn y gallai'r tymhorau ei wneud -- sut y gallai golau, lliw, awyrgylch a ffurf drawsnewid yr un dirwedd yn rhywbeth cwbl wahanol.
Mae'r gweithiau'n archwilio'r trawsnewidiadau hyn rhwng y Gaeaf a'r Gwanwyn, y Gwanwyn a'r Haf, yr Haf a'r Hydref, a'r Hydref a'r Gaeaf. Yn hytrach nag archwilio'r tymhorau, dwi'n ymddiddori yn y mannau rhyngddynt -- yr eiliadau hynny pan mae un cyflwr yn troi'n raddol yn un arall. Mae strwythur cryf, bron yn bensaernïol, yn rhoi fframwaith i bob cyfansoddiad. Yn erbyn y synnwyr trefn yma, defnyddir marciau greddfol, ystumiol, llinell, gwead a thestun i darfu ac i newid y strwythur sy'n sail iddo. Mae'r broses hon o adeiladu, tarfu, cuddio a datgelu yn ganolog i'r gwaith. Mae'n adlewyrchu natur newidiadau tymhorol -- cronni a diflaniad graddol lliw, golau, gwead a ffurf, a'r ymdeimlad fod rhywbeth bob amser yn dod i'r amlwg wrth i rywbeth arall gilio.
Dwi'n ymddiddori yn yr ymdeimlad hwnnw o lif -- y symudiad cyson o un cyflwr i'r llall, a'r eiliadau tawel pan mae'r newid hwnnw'n dod yn amlwg. Mae'r paentiadau hyn yn archwiliad o'r llif hwn -- trawsnewid, byrhoedledd a'r mannau trothwyol yn y canol.

