Katie Allen
"Trwy fy ngwaith, dwi'n ceisio creu tirluniau delfrydol, cytûn -- mannau o harddwch, llonyddwch a thawelwch, yn rhydd o ymyrraeth ddynol. Maen nhw'n fannau rhannol ddychmygol, ond wedi'u gwreiddio mewn tirweddau dwi wedi cerdded trwyddynt ac wedi cael fy nghyffwrdd ganddynt."
Y dirwedd Gymreig yw prif ysbrydoliaeth Katie -- cartref, man y mae'n teimlo'n ddwfn gysylltiedig ag ef ac yn rhan ohono. Mae'n canfod ysbrydoliaeth wrth gerdded yn y natur, gan weithio mewn cytgord â'r tymhorau, sy'n dyfnhau ei hymwybyddiaeth o fyrhoedledd ac ansefydlogrwydd y byd. Trwy gyfansoddiad, arwynebedd a chydbwysedd tonyddol, mae'n ymdrechu i gyfleu ymdeimlad o'r aruchel -- gwaith tawel, myfyrgar, heb ei aflonyddu gan ddim a allai ei styrbio.
Gan boeni fwyfwy am yr argyfwng ecolegol a sut mae dynoliaeth wedi dieithrio oddi wrth natur, mae Katie wedi ailystyried sut mae'n gweithio. Wedi defnyddio paent acrylig ers blynyddoedd -- deunydd sy'n deillio o resinau synthetig a phlastigau -- daeth i deimlo bod hyn yn anghyson â gwaith am freuder y byd naturiol, ac mae wedi symud at siarcol ar fwrdd clai, pennod newydd wrth iddi archwilio deunyddiau cynaliadwy.
Mae ei thirluniau dihalog, dychmygol yn darllen fel cân yr alarch i fyd hardd sy'n graddol ddiflannu -- ac yn gyfartal, yn weledigaeth o ddyfodol lle mae natur yn adfer, yn ffynnu ac yn bodoli unwaith eto ar ei thelerau ei hun.

