• Bywgraffiad

    Porthmadog 1987

    Gold Medal for Craft & Design

    Mae Eleri Mills yn byw ac yn gweithio yn Nyffryn Banwy, ble cafodd ei geni a'i magu. Mae hi wedi arddangos yn eang yn y DU a thramor ers y 70au yn cynnwys Amgueddfeydd Celfyddyd Modern Kyoto a Tokyo, Museu Textil d'Indumentaria, Barcelona a'r Museo Nacional de Artes Decorativas, Madrid.

    Yn 2010 fe enillodd Wobr Llysgenad Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru gyda phreswyliad o dri mis ym Mhrifysgol Columbia, Efrog Newydd. Yn 2016 treuliodd gyfnod yn datblygu ei chelf yng Nghanolfan Sanskriti. Delhi, India.

     

    Mae ei gwaith celf mewn casgliadau cenedlaethol sy'n cynnwys yr Oriel Gelf Whitworth, Manceinion, Oriel Genedlaethol yr Alban, Caeredyn a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Yn 2021 ennillodd Wobr Dylunio Kyffin Williams ac yn 2023 dyfarnwyd Eleri yn ennillydd Gwobr Glyndŵr gan Ymddiriedolaeth Tabernacl Machynlleth am ei chyfraniad eithriadol i'r celfyddydau yng Nghymru.

     

  • Porthmadog 1987 Jwg (Jug) Paent, gwaith pwytho ac appliqué ar ffabrig 100 x 160cm 1985 Cafodd 'Jwg' ei greu yn...

    Porthmadog 1987

     

    Jwg (Jug)
    Paent, gwaith pwytho ac appliqué ar ffabrig
    100 x 160cm 1985


    Cafodd 'Jwg' ei greu yn fy stiwdio ym Manceinion yn 1985, yn fuan ar ôl i mi golli fy Mam. Roedd yn ffordd i mi ddod i delerau â'r golled ac i geisio gwneud synnwyr o'r teimladau yn fy meddwl ar y pryd.

    Gan ddefnyddio’r broses o bwytho â llaw ac 'appliqué', fe welir siapiau annelwig yn llithro heibio ac elfennau atgofus yn 'rhwyfo yn yr awel'.

    Er bod naws freuddwydiol i’r llun, mae wedi ei seilio ar amlinelliad o hen jwg dŵr enamel, gwrthrych cyfarwydd o’r stiwdio. Mae yma lu o gyferbyniadau – absenoldeb a phresenoldeb, y negyddol a’r cadarnhaol, a rhyw ymdeimlad o bellter ac o bylu. Ar y dde mae cae gwair fy nychymyg, tirwedd Maldwyn yr oeddwn yn hiraethu am ddychwelyd iddo.

    Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Madog 1987, enillodd 'Jwg' Fedal Aur y Campwaith Crefft gyda'r detholwyr Jean Muir, Stephen Bayley a Derrick E Turner yn gwneud y sylw canlynol:

    "Mae ganddi ffordd hollol wreiddiol o ganfod, a gallu technegol eang a sylweddol iawn. Cafwyd argraff gyffredinol o waith nodedig. Gobeithia'r detholwyr y bydd y wobr yn anogaeth iddi barhau i feithrin ei thalent anghyffredin”.

  • Gweithiau
    • Eleri Mills, Merlod Capel y Ffin
      Merlod Capel y Ffin
    • Eleri Mills, Teithio ar hyd ffordd y mynydd II
      Teithio ar hyd ffordd y mynydd II
  • AUR Artists

  • Contact Form

    Anfonwch ragor o wybodaeth ataf amEleri Mills

    Please fill in the fields marked with an asterisk
    Derbyn cylchlythyrau *

    * denotes required fields

    Er mwyn ymateb i'ch ymholiad, byddwn yn prosesu'r data personol a roddwyd gennych yn unol â'n polisi preifatrwydd (ar gael ar gais). Gallwch ddad-danysgrifio neu newid eich dewisiadau ar unrhyw adeg drwy glicio'r ddolen yn ein e-byst.