Steve Brockett
“Fflyrtio gyda’r isymwybod yw paentio, gan osod marciau a lliw nes i ddelwedd ddechrau ymddangos...”
Mae gwaith Steve Brockett yn archwilio sut mae llefydd yn ymdreiddio i’r isymwybod, gan lifo’n un gydag atgofion a phrofiad er mwyn brigo i’r wyneb eto fel pytiau bach wedi eu hail-ddychmygu. Mae ei baentiadau hanner-haniaethol yn cynnwys ffigyrau symbolaidd, anifeiliaid, adar a thirweddau sy’n canu’n y cof – llefydd lle mae hedfan yn teimlo mor naturiol â breuddwydio. Daw’r llefydd yma’n lestri emosiynol i ddala amser, lle mae tirwedd ffisegol yn codi uwchlaw rôl gefndirol i chwarae rhan fywiog, ddeinamig. Proses reddfol yw un Brockett yn hytrach na gweithio i gynllun ymlaen llaw: mae pob paentiad yn esblygu trwy ddad-adeiladu ac aildrefnu a thrwy gydadwaith marciau haniaethol. Weithiau, fe fydd un ffurf neu osgo yn tanio ehangu syniad; dro arall, bydd y gwaith yn eistedd yn llonydd nes bydd yn cynnig rhyw wefr. Mae’r eiliad yma o aliniad – lle mae’r cof, dychymyg a’r emosiwn yn dod ynghyd – yn rhoi teimlad trawiadol o symud ac adfyfyrio barddonol i’w waith.
-
A Kind of Ascent -
A Kind of Fall -
A Kind of Holding -
A Kind of Mercy -
Counter Balance -
Counter Weight -
Donkey and the Bride -
El Ritmo -
Flat Top -
Fledgling -
Head Scratch -
Masked Goat -
Morning Face -
Passenger -
Pink Goat -
Realm -
Shared Silence -
Sheep go to Heaven -Goats go to Hell -
Tethered -
The Clearing -
The Ride -
The Witness -
Under a Weight of Wings -
Untitled -
Untitled -
What Carries Us -
White Crow

