Patricia McParlin
Mae gan Patricia gefndir fel cerddor, ysgrifennwr ac ymarferydd theatr, sy’n ddylanwad ar yr arddangosfa hon ble mae’r gweithiau yn llwyfan i liw, ffurf ac ystum gyd-berfformio gan greu rhythmau, seibiannau a chresiendo sy’n adleisio tu hwnt i’r arwynebedd a baentiwyd.
Mae’r arddangosfa yn cyflwyno corff o waith lle mae paentio yn ymagor fel cyfres o symudiadau mewn amser – yn rhannol ddawns, rhannol gerddoriaeth, rhannol theatr.
Wrth galon yr arddangosfa mae ymchwiliad i anian paent: yn haenau, wedi ei sgwrio nôl, ei arllwys a’i frwsio mewn ystumiau ysgubol sy’n awgrymu naws symudol ymhell wedi i’r paent sychu. Daw lliw yn berfformiwr ac yn sgript – gan newid o harmonïau cynnil i wrthdaro beiddgar – tra bod gweadau a marciau yn amlinellu coreograffi penderfyniadau’r artist yn y funud. Mae pob darn yn cipio eiliad pan fydd meddwl ac emosiwn yn dod ynghyd, gan grebachu’r pellter rhwng beth a welir a’r hyn a deimlir, y llythrennol a’r trosiadol.
Mae’r arddangosfa hon hefyd yn adlewyrchu diddordeb parhaus McParlin ym mhŵer celf i lenwi mwy nag un lle ar yr un pryd: y mewnol a’r allanol, y real a’r dychmygol, gorffennol a phresennol. Mae’r paentiadau yn awgrymu gofodau sy’n llechu yn y cof a synhwyrau diflanedig, gan wahodd gwylwyr i symud drwyddyn nhw fel petaen nhw’n cymryd rhan yn hytrach na gwylio, gan gyflawni’r ddawns gyda’u hatgofion a’u cysylltiadau eu hunain. Fel hyn, mae’r arddangosfa yn troi’n sgôr miwsig i ymgolli ynddo – perfformiad sy’n ymagor lle mae pob cyfarfyddiad yn unigryw, yn fyw, dros dro.

