Trosolwg

Gan ddilyn ei diddordeb parhaus yn y ffordd mae popeth yn gysylltiedig oll i gyd, mae gwaith Sophie Myfanwy Wellan yn mynd i’r afael â themâu defod, pŵer a thrawsffurfiad gyda dyfnder teimladwy a llonyddwch dwys.

Wrth galon ymarfer Sophie mae’r chwilio am wirionedd dyfnach – dyhead i gadw teimlad o fod yn gysylltiedig, a hynny wedi ei fynegi trwy iaith deunyddiau a hanfod ysbrydol sylwedd ei hun. Mae’r arddangosfa hon yn talu teyrnged i fywyd a dirgelwch hardd y wenynen, creadur sy’n ganolog i ymchwiliadau diweddar Wellan. Mae ei gwaith yn ddatganiad o barch a chariad tuag at y gwenyn, tra’n wynebu breuder ein bodolaeth ni. Trwy’r darnau yma, mae hi’n myfyrio uwchben dibyniaeth y ddynoliaeth ar y creaduriaid grymus yma – cyswllt sy’n hanfodol i gydbwysedd bywyd ar y Ddaear. Wrth fod yn dyst i’w diflaniad, daw’r arddangosfa yn erfyniad am wellhad, i adnewyddu perthynas a chydfyw yn fwy tyner gyda bywyd y byd ry’n ni’n ei rannu.