Catrin Webster: (be) longing
Mae’r arddangosfa hon yn cyflwyno paentiadau newydd gan Catrin Webster, sydd wedi eu gwreiddio mewn llefydd a fu’n arwyddocaol ers tro byd yn ei hymarfer. Mae’r gwaith yn gwahodd y gwyliwr i rannu mewn proses o edrych gofalus, dro ar ôl tro.
Yn y gyfres newydd hon o baentiadau gan Catrin Webster mae’n ail-ymweld â llefydd a welodd ac a baentiodd ar hyd gyrfa o dros 40 mlynedd, Mae gyda nhw ystyr arbennig i’r artist sy’n teimlo cyswllt dwfn gyda’r tirweddau arbennig hyn. Mae llawer yn lefydd wedi eu curadu fel gerddi hanesyddol, lle mae coed, llwyni a blodau yn cael eu plannu i greu profiad estheteg, ac mae llwybrau, mannau golygfa a meinciau yn cynnig golygfeydd eang arbennig. Mae’r math yma o lefydd yn pontio gyda iaith. Mae’r gwaith graddfa fechan ar lin yn cael eu creu yn y fan a’r lle, tra bod y darnau mwy yn cael eu creu yn y stiwdio ar ôl treulio amser dwys yn y dirwedd.
Wrth drafod gwaith newydd, medd Catrin ‘Mae lliw i’w weld yn yr eiliad o edrych, yn y presennol teimladwy a chorfforol nawr. Mae symboliaeth, twyll dyfnder a pherspectif mewn paentiadau yn fynegiant o hiraeth am yr hyn sy tu hwnt i’n gafael, fel y gorffennol, y dyfodol, tafluniadau i mewn a thrwy lyn llonydd yr arwynebedd.

