Biography

“Mae fy ymarfer creadigol yn cydbwyso diddordebau cysyniadol am syniadau am le a thirwedd; perfformiad a phresenoldeb, ynghyd ag archwilio paentio fel gweithred a gwrthrych; deunydd a delwedd.” 

 

Ganed Catrin Webster yng Nghaerdydd ac astudiodd yn Ysgol Gelf Slade, Coleg Prifysgol Llundain. Yn ddiweddar dychwelodd i fyw a gweithio yn Aberystwyth. Mae llawer o’i gwaith yn ymwneud â bod mewn lle penodol; gardd, parc, dinas neu gefn gwlad ac yn aml mae’n ymateb i daith, er enghraifft ar droed neu gefn beic. Ar hyd ei gyrfa, bu’n archwilio ystod o gyfryngau paentio a bellach mae’n canolbwyntio’n bennaf ar baent olew a dyfrlliw, ar raddfa fach a mawr. Mae Catrin yn angerddol hefyd dros botensial paentio cyfoes i ail-ddyfeisio ei hunan yn gyson, gan luniadu ieithoedd newydd, dulliau o osod cyfansoddiad, strwythurau a ffyrdd o ddeall gweledol, trwy astudio cyfryngau dau ddimensiwn eraill, megis y teleweledol. Gwnaeth sawl astudiaeth o ddelweddau sgrin mewn inc, dyfrlliw a lluniadau digidol, ac mae hefyd wedi cyd-weithio ar gynhyrchu gosodiadau taflunio a phaentio. Mae Catrin wedi cyflawni sawl preswyliad rhyngwladol ac wedi arddangos yn genedlaethol a rhyngwladol. Mae ei phaentiadau mewn casgliadau cenedlaethol megis Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Chasgliad Cyngor Celfyddydau Prydain.

 

Works
  • Catrin Webster, A Gesture Against the Wild
    A Gesture Against the Wild
  • Catrin Webster, A Walk: Winter Garden, Last Light, Gold Between the Dark
    A Walk: Winter Garden, Last Light, Gold Between the Dark
  • Catrin Webster, A Walk: Winter Garden, Last Light, Mapping
    A Walk: Winter Garden, Last Light, Mapping
  • Catrin Webster, Study of Light and Colour Across the Estuary
    Study of Light and Colour Across the Estuary
  • Catrin Webster, Study of Light; Dawn, Tal-y-bont
    Study of Light; Dawn, Tal-y-bont
  • Catrin Webster, Study of Light; Dusk, Tal-y-bont
    Study of Light; Dusk, Tal-y-bont
  • Catrin Webster, Study of Light; mid Wales dusk
    Study of Light; mid Wales dusk
Exhibitions
Enquire

Send me more information on Catrin Webster

Please fill in the fields marked with an asterisk
Receive newsletters *

* denotes required fields

In order to respond to your enquiry, we will process the personal data you have supplied in accordance with our privacy policy (available on request). You can unsubscribe or change your preferences at any time by clicking the link in our emails.