Bywgraffiad

“Rwy’ wedi cerdded, braslunio a phaentio’r dirwedd hon dros dri degawd nes ei bod wedi mynd yn rhan ohona’ i.”

 

Denwyd Gillian McDonald yn llwyr at oleuni trawiadol a harddwch gwyllt gogledd sir Benfro, ac mae’n canfod ysbrydoliaeth ddofn yn naeareg hynafol yr ardal a’r meini cyn-oesol, a ffurfiwyd gan artistiaid cynharaf y sir yn fynegiant parhaol o’u cyswllt â’r tir. Mae’n teimlo cysylltiad dwfn â’r crewyr cyntaf yma, a luniodd gelfyddyd na ellir ei gwahanu oddi wrth y dirwedd ei hunan. Mae diddordeb mawr Gillian yn ymestyn i lefydd lle mae’r tir yn cwrdd â’r môr – y pentrefi pysgota a’r arfordir gwyllt lle mae’r creigiau safadwy yn herio rhythm di-dor y tonnau. Mae ei hoff bentiroedd megis Tŷ Ddewi, Strwmbwl a Cheibwr yn ffynonellau dihysbydd o ryfeddod a myfyrdod. Wrth i’w pherthynas â’r dirwedd ddyfnhau, felly hefyd dechneg Gillian, sydd bellach yn cynnwys collage a deunyddiau naturiol sy’n adleisio hanfod cyfnewidiol, haenog byd natur. Mae Gillian yn arddangos yn rheolaidd yn The Gallery Yr Oriel yn Nhrefdraeth, sir Benfro.

Gweithiau
  • Gillian McDonald , Standing Stone Study III
    Standing Stone Study III
  • Gillian McDonald, Abereiddy Slate I
    Abereiddy Slate I
  • Gillian McDonald, Goddess Stone
    Goddess Stone
  • Gillian McDonald, Abereiddy Slate II
    Abereiddy Slate II
  • Gillian McDonald, Abereiddy Slate Study
    Abereiddy Slate Study
  • Gillian McDonald, Preseli Stones II
    Preseli Stones II
  • Gillian McDonald, Blue Stone II
    Blue Stone II
  • Gillian McDonald, Blue Stone Study I
    Blue Stone Study I
  • Gillian McDonald , Preseli Stones III
    Preseli Stones III
  • Gillian McDonald, Preseli Stones IV
    Preseli Stones IV
  • Gillian McDonald, Woodland
    Woodland
  • Gillian McDonald, Preseli Stones I
    Preseli Stones I
  • Gillian McDonald , Swimming to the Surface
    Swimming to the Surface
  • Gillian McDonald , Red Hills II
    Red Hills II
Arddangosfeydd
Digwyddiadau
Ymholi

Anfonwch ragor o wybodaeth ataf amGillian McDonald

Please fill in the fields marked with an asterisk
Derbyn cylchlythyrau *

* denotes required fields

Er mwyn ymateb i'ch ymholiad, byddwn yn prosesu'r data personol a roddwyd gennych yn unol â'n polisi preifatrwydd (ar gael ar gais). Gallwch ddad-danysgrifio neu newid eich dewisiadau ar unrhyw adeg drwy glicio'r ddolen yn ein e-byst.