Lola Rose Chapman
"Nid darluniau o lefydd yw ‘ngwaith i ond ymgorfforiad o awyrgylch a hanfod lle."
Artist o Orllewin Cymru yw Lola Rose Chapman a’i hymarfer wedi ei wreiddio’n ddwfn ym mro Ceredigion ei mebyd. Yn hytrach na chreu darluniau uniongyrchol, cynrychioladol
mae gwaith Lola’n ceisio cipio awyrgylch a hanfod lle, gan adael i wefr emosiynol y dirwedd roi ffurf i’r paentiad. Mae ei phroses yn reddfol a digymell iawn, gyda marciau brwsh llifol a marciau deinamig yn deillio’n uniongyrchol o’i hamgylchedd, sy’n rhoi teimlad o helaethdra a gofod di-ben-draw i’w phaentiadau. Mae ei gwaith yn dangos ei gallu i gydbwyso haniaeth ac adnabyddiaeth – mae’n hofran ar y ffin rhwng ffurf a di-ffurf, gan gyniwair teimlad o awyr fawr yn ymsymud, gorwelion pell a theimladau diflanedig, gan wahodd gwylwyr i rannu yn y profiad sy’n ymagor o’u blaen.
-
Aberaeron Harbour -
Between Storms -
Black Trees -
Breaking -
Cai Bach -
Darkest Light -
Fade Away -
Grounded -
Harbour -
Held By You -
Ice River -
Impressions Left Behind -
Into the White -
Light Calling -
Llanina -
Longing -
Rolling Hills -
Sea Air -
Silent Land -
Sleeping Mountain -
Steel Works -
Still Water -
The Land Did Not Forget -
The Land That Listens -
Traces of Memory -
Truth -
Where Rocks Soften -
Where Time Settles -
Wind Over Colour

