Anne Cakebread
“Ymateb yn y cof i droeon ar hyd y traeth a’r arfordir yw ‘ngwaith i.”
Dylunydd ac arlunydd gwobrwyol wedi ymgartrefu yn Llandudoch, Gorllewin Cymru yw Anne Cakebread. Yn wreiddiol o Gaerdydd ac yn raddedig mewn Celfyddyd Gain, mae wedi adeiladu gyrfa ddeinamig ym meysydd cyhoeddi, darlledu a gwaith galeri. Mae ei chreadigrwydd amryddawn yn cwmpasu gwaith celf ar gyfer rhaglenni teledu cenedlaethol, hysbysebion, cylchgronau, papurau newyddion a phrif gyhoeddwyr llyfrau. Mae’n fwyaf adnabyddus am greu a dylunio’r cyfresi dysgu iaith tra llwyddiannus “Teach Your Dog…” a “Teach Your Cat…”, sy’n cyfuno hiwmor, llygad dda am ddyluniad a chwilfrydedd am iaith. Ar y cyd â’i hymarfer masnachol, mae Anne wedi bod yn rhan greiddiol o Canfas yn Aberteifi, yn dathlu celfyddyd gain ac ymwneud cymunedol. Yn ei phaentiadau ei hunan mae’n dathlu goleuni ac arfordir Sir Benfro, gan dynnu ysbrydoliaeth gyson o naws gyfnewidiol yr awyr a’r môr.

