Billy Adams
“Mae ‘ngwaith i’n cael ei ddylanwadu gan ein ffordd o weld – o syllu ar – y dirwedd, a’r canfyddiadau sy’n deillio o’r profiad hwn.”
Crochenydd o Ogledd Iwerddon yn wreiddiol yw Billy Adams, sydd bellach yn byw ger Cenarth yn Sir Gaerfyrddin. Yn ei waith, mae Billy’n archwilio ac yn cynnwys agweddau o’r dirwedd a’r golygfeydd morol dramatig, sy’n ddrych o harddwch a naws wyllt Iwerddon a Chymru. Mae’n gweithio o fewn ffurf llestr gan gyfuno gwead a lliwiau er mwyn i’r gwyliwr gael argraff o’i weledigaeth bersonol o’r berthynas glos rhwng pobl a thir. Mae’r byd hwn yn gyfuniad o strwythurau a ffurfiau yn cydblethu ag elfennau o waith llaw dynol, gan herio syniadau traddodiadol am grochenwaith trwy asio agweddau ymarferol ac anymarferol yn ei gynlluniau. Caiff ei waith ei arddangos a’i gasglu ledled y byd ac mae’n Gymrawd o’r Craft Potter’s Association of the UK ac yn Ymddiriedolwr o Urdd y Gwneuthurwyr yng Nghymru.

