Lyndon Thomas
“Rwy’n ymddiddori’n arbennig mewn preswyliad dynol o fewn y dirwedd, preswyliad sydd yn aml yn ynysig, bron yn ymddiheurol yn ei leoliad.”
Ganed Lyndon Thomas yn Llanelli ym 1941, a bu’n paentio ac yn arddangos ei waith ers dros bum degawd, gan weithio ar draws tair grefft gysylltiedig: paentio, crochenwaith a throi coed. Fe arddangosodd olew ffigurol gyntaf yn gynnar yn y 1960au, gan osod diwydiant o fewn tirwedd, cyn troi yn 1966 at grochenwaith carreg a arddangoswyd ledled Cymru a Lloegr. Dychwelodd at baentio yn 2008, gan ddatblygu dull o weithio mewn acrylig ar bapur gyda chyllyll paentio. Prif destun ei waith yw’r tirweddau agored, yn nannedd y gwynt, o Ogledd sir Benfro a Phenrhyn Llŷn — tai’n swatio, coed wedi’u crymu gan y gwynt, heolydd sy’n diflannu i’r pellter, wedi’u goleuo gan fflachiau prin o oleuni trwy niwl a chwmwl. Yn y lle llwm ansicr yma, mae Lyndon yn darganfod urddas, stoiciaeth a chryfder mawr, gan greu gwaith sydd wedi'i lenwi â phrydferthwch cynnil a mawredd gwyliadwrus wedi'r cwbl.

