Marion Smylie
-
Bywgraffiad
"Ers amser maith rwyf wedi fy nenu at ryfedd-fyd ffwng – newidiwr siâp, torrwr ffiniau, dadelfennwr – cysylltiad â'r isddaearol, y cudd, yr anweledig."
Mae Marion Smylie yn artist rhyngddisgyblaethol sy'n byw yng ngorllewin Cymru. Mae ei hymarfer yn canolbwyntio ar ecoleg a'r cyfuniad chwilfrydig o berthnasau rhyngrywogaethol, gan dynnu sylw at golli bioamrywiaeth a chydgysylltiad. Gan weithio mewn ffordd fio-gynhwysol, mae hi'n arbrofi ac yn cydweithio â deunyddiau a systemau naturiol, gan gwestiynu naratifau anghyfredol – yn llenwi llyfrau braslunio ag incia botanegol a siarcol a wneir ganddi yn y coed, cyn eu plannu â sbawn sy'n 'bwyta'r' brasluniau er mwyn tyfu. Wedyn sychir y cerfluniau sy'n deillio o hyn o dan amodau penodol i'w cadw.
Wedi'i hyfforddi'n wreiddiol mewn theatr, mae gan Smylie radd BA (Anrhydedd) mewn Perfformiad Gweledol o Goleg Celf Dartington, a gradd MA mewn Celfyddyd Gain gyda Rhagoriaeth o Brifysgol Celf Plymouth. Mae hi wedi gweithio fel darlunydd, gan gynnwys ar gyfer Creating a Forest Garden gan Martin Crawford. -
Gweithiau
Marion Smylie
Hyphae Mind - Sketchbook 2Paper, botanical inks, Fungi (Pleutotus ostreatus)H: 19.5cm / W:17cm / D: 11cmHawlfraint Yr Artist1of 2
Artistiaid NaturContact FormAnfonwch ragor o wybodaeth ataf amMarion Smylie

