Vivienne Williams

  • Bywgraffiad

    "My subject matter is still life - vessels, flowers and fruit. I paint everything from my mind, my imagination and memory, preferring a flattened perspective with simplified forms. There is an emotional significance invested in the objects by returning to them again and again - like working a seam, one painting leads on to the next."

    Mae lliw, ffurf a gwead yn bwysig i Vivienne fel ei gilydd. Aildrefnir ac ailbeintir elfennau sawl gwaith, gan gydbwyso beth i'w gadw a beth i'w golli, nes bod y papur yn magu teimlad a phwysau lledr hen, wedi'i weithio, ei grafu, ei dywodio, ei staenio. Gall paentiad ymddangos ar unrhyw adeg; os yw'n wir, mae'n cofnodi cyflwr meddwl Vivienne, gan ei synnu pan fydd y frwydr ar y papur yn ymdawelu.

    Ganed Vivienne yn Abertawe ym 1955, a bu'n astudio Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Reading, gan ennill gradd Meistr yn 1978 mewn The Literary Response to the Visual Arts. Yna treuliodd bum mlynedd dramor yn dysgu Saesneg yn Fenis a Padua ac yn gweithio mewn oriel yn Sydney, lle gwerthodd ei gwaith am y tro cyntaf. Dychwelodd i'r DU ym 1983 am saith mlynedd mewn Cymuned Fwdhaidd, cyn dod yn artist llawn amser yng Nghymru ym 1990. Roedd ei gwaith cynnar yn lliwgar, gan mwyaf yn flodau; ers ugain mlynedd mae wedi canolbwyntio ar fywyd llonydd, ei phalet yn esblygu a'i harddull yn nodedig. Mae wedi arddangos yn eang, cafodd ei hethol i'r Academi Frenhinol Cambrian yn 2017, a chedwir ei gwaith mewn casgliadau cyhoeddus a phreifat yn y DU a thramor.

  • Gweithiau
    • Vivienne Williams, Lilies and Eggs
      Lilies and Eggs
    • Vivienne Williams, Roses
      Roses
  • Artistiaid Natur
  • Contact Form

    Anfonwch ragor o wybodaeth ataf amVivienne Williams

    Please fill in the fields marked with an asterisk
    Derbyn cylchlythyrau *

    * denotes required fields

    Er mwyn ymateb i'ch ymholiad, byddwn yn prosesu'r data personol a roddwyd gennych yn unol â'n polisi preifatrwydd (ar gael ar gais). Gallwch ddad-danysgrifio neu newid eich dewisiadau ar unrhyw adeg drwy glicio'r ddolen yn ein e-byst.