Bywgraffiad

"Mae’r ffurfiau pren rwy’n eu creu yn canolbwyntio ar lonyddwch a heddwch…rwy’n gwneud y cerfluniau hyn i gael fy amsugno i’r llonyddwch tawel yna, a ‘ngobaith i yw y bydd eraill yn profi fy ngwaith yn yr un ffordd.”

Mae Nicola yn gerflunydd a’i gwaith wedi ei ffurfio gan atseiniau tawel Cymru, ei mamwlad. Bellach mae’n byw yn sir Benfro, gan dynnu’n ddwfn ar dirwedd y sir, ar olion hanesyddol sydd wedi eu plannu’n ddwfn mewn mannau cyn-oesol ac ar olion yr amseroedd gynt a dreuliwyd gan y tywydd. Mae ei ffurfiau a naddwyd o bren yn gwahodd y llonyddwch a ddaw o’r mannau hyn - mannau lle mae amser fel petai’n oedi a’r gorffennol yn anadlu’n dyner drwy’r tir. Graddiodd Beattie o Ysgol Gelf Wimbledon a bu’n cerflunio ers dros dri degawd. Arddangosodd ei gwaith yn eang ar draws y DU a thramor ac mae ei gwaith mewn casgliadau drwy Ewrop, America, Awstralia ac Asia. Mae darnau efydd cyhoeddus nodedig yn swydd Caergrawnt, swydd Bedford ac mae gosodiad sylweddol yn Harbwr Tolo, Hong Kong

 

Gweithiau
  • Nicola Beattie MRSS, Ascent
    Ascent
  • Nicola Beattie MRSS, Blade
    Blade
  • Nicola Beattie MRSS, Camino
    Camino
  • Nicola Beattie MRSS, Celt
    Celt
  • Nicola Beattie MRSS, Dawn
    Dawn
  • Nicola Beattie MRSS, Era
    Era
  • Nicola Beattie MRSS, Gwarchodwr
    Gwarchodwr
  • Nicola Beattie MRSS, Paso
    Paso
  • Nicola Beattie MRSS, Pileri
    Pileri
  • Nicola Beattie MRSS, Portal
    Portal
  • Nicola Beattie MRSS, River Pod
    River Pod
  • Nicola Beattie MRSS, Sentinel
    Sentinel
  • Nicola Beattie MRSS, Solitude
    Solitude
  • Nicola Beattie MRSS, Torr
    Torr
  • Nicola Beattie MRSS, Visori
    Visori
Arddangosfeydd
Digwyddiadau
Ymholi

Anfonwch ragor o wybodaeth ataf amNicola Beattie MRSS

Please fill in the fields marked with an asterisk
Derbyn cylchlythyrau *

* denotes required fields

Er mwyn ymateb i'ch ymholiad, byddwn yn prosesu'r data personol a roddwyd gennych yn unol â'n polisi preifatrwydd (ar gael ar gais). Gallwch ddad-danysgrifio neu newid eich dewisiadau ar unrhyw adeg drwy glicio'r ddolen yn ein e-byst.