:
-
Trosolwg
Cynhelir noson agoriadol ein harddangosfa o gyn-enillwyr Medalau Aur yr Eisteddfod Genedlaethol ar nos Wener, Gorffennaf 31 ac, ar y cyd â Gŵyl Grefft Cymru, bydd Canfas yn tanio’r dathliadau yn nhref Aberteifi, man geni’r Eisteddfod!
Wedi'i guradu gan yr artist Suzi Park a Chyfarwyddwr Craft Festival Wales Sarah James MBE, mae Aur yn arddangos artistiaid a chrefftwyr eithriadol o Gymru, gan dynnu sylw at etifeddiaeth arbennig Y Lle Celf a phwysigrwydd celf a chrefft Gymreig.
Mae'r arddangosfa hefyd yn rhan o ddathliadau sy'n nodi 850 mlwyddiant yr Eisteddfod gyntaf a gofnodwyd, a gynhaliwyd yng Nghastell Aberteifi yn 1176 gan yr Arglwydd Rhys – achlysur diwylliannol arwyddocaol i'r dref ac i Gymru.
Mae'r arddangosfa'n cyd-ddigwydd ag Eisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las, ychydig y tu allan i Aberteifi, ac yn parhau hyd at benwythnos olaf Craft Festival Wales yng Nghastell Aberteifi.Dyddiadau allweddol:
AUR yn Canfas yn Aberteifi: 1 Awst – 13 Medi
Eisteddfod y Garreg Las yn Llantwd: Awsi 1-8
Gŵyl Grefft Cymru yng Nghastell Aberteifi: Medi 11-13

