• Trosolwg

    Mae Aur yn agor ar Awst 1af yn Canfas, i ddathlu cyn-enillwyr Medal Aur Y Lle Celf, gan dynnu ynghyd rhai o’r gwneuthurwyr ac artistiaid mwyaf uchel eu parch yng Nghymru heddiw.

    Curadwyd Aur gan yr artist Suzi Park a Chyfarwyddwr yr Wyl Grefft Sarah James MBE ac mae’n arddangos artistiaid a gwneuthurwyr Cymreig o’r radd flaenaf, gan daflu goleuni ar waddol arbennig Y Lle Celf a phwysigrwydd celf a chrefft Cymreig.

    Mae’r arddangosfa hon hefyd yn rhan o’r dathliadau sy’n nodi 850 mlynedd ers yr Eisteddfod gyntaf a gofnodwyd, a gynhaliwyd yng Nghastell Aberteifi yn 1176 gan yr Arglwydd Rhys – moment ddiwylliannol arwyddocaol i’r dre ac i Gymru.

    Mae’r arddangosfa yn cyd-daro ag Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las, ychydig tu fas i Aberteifi, ac mae i’w gweld tan benwythnos olaf Gwyl Grefft Cymru yng Nghastell Aberteifi.

    Dyddiadau allweddol:

    AUR yn Canfas yn Aberteifi: 1 Awst – 13 Medi

    Eisteddfod y Garreg Las yn Llantwd: Awsi 1-8

    Gŵyl Grefft Cymru yng Nghastell Aberteifi: Medi 11-13

  • AUR Artists