AUR: Arddangosfa o Fedelwyr Aur blaenorol yr Eisteddfod
-
Trosolwg
Cynhelir noson agoriadol ein harddangosfa o gyn-enillwyr Medalau Aur yr Eisteddfod Genedlaethol ar nos Wener, Gorffennaf 31 ac, ar y cyd â Gŵyl Grefft Cymru, bydd Canfas yn tanio’r dathliadau yn nhref Aberteifi, man geni’r Eisteddfod!
I ddathlu dychweliad yr Eisteddfod a Gŵyl Grefft Cymru i Aberteifi, ry’n ni’n falch i gyflwyno Aur/Gold, sef arddangosfa serog o waith cyn-enillwyr Medalau Aur mewn Crefft a Chelfyddyd Gain yn y Lle Celf ar draws y degawdau.
Caiff yr arddangosfa ei churadu gan Suzi Park a Chyfarwyddwr yr Ŵyl Grefft, Sarah James MBE a bydd yn dangos gwaith gwneuthurwyr ac artistiaid o Gymru sydd wedi ennill y Fedal Aur yn Eisteddfodau’r gorffennol. Bydd Aur yn agor yn barod i groesawu’r Eisteddfod ac yn cau ar benwythnos yr Ŵyl Grefft yng Nghastell Aberteifi.
Cadwch lygad ar agor wrth i’r dre baratoi i groesawu ymwelwyr o bob cwr o Gymru!
Dyddiadau allweddol:

AUR yn Canfas yn Aberteifi: Noson Agoriadol Gorffennaf 31
Eisteddfod y Garreg Las yn Llantwd: Awsi 1-8
Gŵyl Grefft Cymru yng Nghastell Aberteifi: Medi 11-13
Arddangosfa yn Canfas tan Fedi 13

