AUR: Mewn cydweithrediad â Gŵyl Grefft Cymru
Oriel Canfas
Croeso i bawb
1 Awst - 13 Medi
canfas.co.uk
Mae Aur yn agor ar Awst 1af yn Canfas, i ddathlu cyn-enillwyr Medal Aur Y Lle Celf, gan dynnu ynghyd rhai o’r gwneuthurwyr ac artistiaid mwyaf uchel eu parch yng Nghymru heddiw. Curadwyd Aur gan yr artist Suzi Park a Chyfarwyddwr yr Wyl Grefft Sarah James MBE ac mae’n arddangos artistiaid a gwneuthurwyr Cymreig o’r radd flaenaf, gan daflu goleuni ar waddol arbennig Y Lle Celf a phwysigrwydd celf a chrefft Cymreig. Mae’r arddangosfa hon hefyd yn rhan o’r dathliadau sy’n nodi 850 mlynedd ers yr Eisteddfod gyntaf a gofnodwyd, a gynhaliwyd yng Nghastell Aberteifi yn 1176 gan yr Arglwydd Rhys – moment ddiwylliannol arwyddocaol i’r dre ac i Gymru.

